Mae uwch gynghorwyr yng Nghasnewydd wedi ymbellhau oddi wrth y posibilrwydd o gyflwyno treth dwristiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig rhoi’r pwerau i gynghorau godi tâl ar ymwelwyr dros nos, ac i ddefnyddio’r arian hwnnw i helpu i ariannu gwasanaethau twristiaeth.
Maen nhw wedi amlinellu cynigion ar gyfer ardoll o £1.25 y noson i bob person sy’n aros yng Nghymru – a byddai’r gyfradd yn cael ei haneru i westeion mewn hostel a gwersylloedd.
Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, wedi brolio’r cynllun, gan ddweud ei fod “wedi’i wreiddio mewn egwyddor o degwch”.
‘Dim cynlluniau’
Gall pob awdurdod lleol benderfynu a ydyn nhw am gyflwyno’r polisi ai peidio, pe bai’n dod i rym, ond mae’n ymddangos eisoes na fydd Cyngor Casnewydd yn manteisio arno.
Wrth ymateb i aelod o ward Ceidwadol, dywedodd Dimitri Batrouni, arweinydd y Cyngor, ac Emma Stowell-Corten, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, “nad oes cynlluniau” i gyflwyno’r ardoll ymwelwyr yng Nghasnewydd.
Wrth gynnig sylwadau pellach i’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol, dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni fod ei awdurdod lleol yn canolbwyntio ar gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r ddinas.
“Rydyn ni eisiau annog pobol i aros yng Nghasnewydd ac i ddarganfod yr hyn sydd gan y ddinas i’w gynnig, yn ogystal â chefnogi ein hatyniadau lleol, gwestai a darparwyr llety eraill,” meddai.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio’n galed i adeiladu a datblygu cynnig twristiaeth Casnewydd, trwy gydweithio â phartneriaid a thrwy ddatblygu’r cynllun creu lleoedd, y cynllun marchnata cyrchfannau, a’r strategaeth ddiwylliannol.
“Dydy’r ardoll ddim yn rhan o’r cynlluniau hyn.
“Mae Casnewydd yn sicr ar agor ar gyfer busnesau.”
Economi Casnewydd
Fe wnaeth y Cynghorydd David Fouweather, Ceidwadwr gyflwynodd y cwestiwn gwreiddiol i’r awdurdod lleol, groesawu ateb cychwynnol aelodau’r Cabinet.
“Dw i’n falch fod arweinydd y Cyngor wedi penderfynu mynd yn groes i’w blaid ei hun a’r llywodraeth yng Nghymru drwy wrthod y dreth hon ar fusnesau Casnewydd,” meddai.
“Mae’r Cynghorydd Batrouni fel pe bai’n deall nad yw trethu busnesau a phobol yn fwy fyth yn gwneud unrhyw beth i wella economi Casnewydd.
“Efallai y dylai gynnig y cyngor hwnnw i’r ‘Cymrawd Drakeford’.”
Ymateb y Llywodraeth
Wnaeth Llywodraeth Cymru ddim ymateb i honiadau’r Cynghorydd David Fouweather, ond wrth siarad ym mis Tachwedd, dywedodd Mark Drakeford fod twristiaeth “yn gwneud cyfraniad pwysig i economi a bywyd Cymru”, gan ychwanegu bod y Llywodraeth am sicrhau “cynaliadwyedd hirdymor” y sector.
“Dyna pam ein bod ni’n credu ei bod hi’n deg fod ymwelwyr yn cyfrannu tuag at gyfleusterau, gan helpu i ariannu isadeiledd a gwasanaethau sy’n rhan hanfodol o’u profiad,” meddai ar y pryd.
“Mae ardoll i ymwelwyr yn gyffredin o amgylch y byd, ac maen nhw o fudd i gymunedau, twristiaid a busnesau – ac rydyn ni eisiau’r un fath i Gymru.”
Eglurodd Mark Drakeford hefyd y byddai cynghorau’n cadw’r arian y bydden nhw’n ei godi drwy’r ardoll, i’w ailfuddsoddi “yn ôl yn eu hardaloedd lleol i gefnogi twristiaeth leol, gynaliadwy”.
“Mae’n gyfraniad bach allai wneud gwahaniaeth mawr,” meddai.
Dywed y Llywodraeth na fyddai disgwyl i’w cynigion ar gyfer ardoll i ymwelwyr ddod i rym tan o leiaf 2027, ac y gallen nhw gynhyrchu hyd at £33m y flwyddyn.