Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn yn galw o’r newydd am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru.

Yn ôl Llinos Medi, llefarydd ynni ei phlaid yn San Steffan, dylid rhoi’r gorau i anfon yr arian i Lundain, a’i fuddsoddi yng nghymunedau Cymru.

Bydd hi’n annerch San Steffan yn ystod ail ddarlleniad o Fil Ystad y Goron heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 7), gan alw am roi’r gorau i’r drefn sy’n gweld arian o adnoddau naturiol Cymru’n mynd i ddwylo Trysorlys y Deyrnas Unedig.

Yn ystod y ddadl, bydd Plaid Cymru’n cyflwyno gwelliant er mwyn ceisio datganoli pwerau dros Ystad y Goron i’r Senedd yng Nghaerdydd.

Bydd Llinos Medi yn dadlau y dylai’r elw drwy dir a môr Cymreig aros yng Nghymru er budd ei thrigolion.

Cefndir

Yn 2007, roedd asedau Ystad y Goron yng Nghymru’n werth £21.1m.

Erbyn 2023, roedd y ffigwr wedi cynyddu i £853m, diolch yn bennaf i brosiectau ynni adnewyddadwy.

Yn yr un modd, cododd elw refeniw net ar draws Ystad y Goron o £345m yn 2020 i £1.1bn yn 2024.

Ond dydy’r elw ddim yn mynd i bwrs y wlad yng Nghymru, ond yn hytrach i’r Trysorlys a’r Grant Sofran.

Mae hyn yn wahanol iawn i’r Alban, lle mae Ystad y Goron wedi’i ddatganoli, gyda’r elw’n mynd i ddwylo Llywodraeth yr Alban.

Roedd Ystad y Goron yn werth £108.3m i’r Alban yn 2023, gyda’r arian yn cael ei fuddsoddi er budd Albanwyr.

Yn sgil y sefyllfa bresennol yng Nghymru, mae’n rhaid i awdurdodau lleol dalu ffioedd i gael defnyddio tir sydd yn nwylo Ystad y Goron – oedd yn werth bron i £300,000 yn 2023.

Does dim cyfiawnhau hynny, yn ôl Llinos Medi.

‘Ein cyfoeth, ein hadnoddau, ein cymunedau’

“Bob tro mae Cymru’n cynhyrchu ynni gwyrdd, mae’r elw’n gadael ein cymunedau ac yn mynd yn syth i Lundain,” meddai Llinos Medi.

“Ein cyfoeth ni ydi hwn. Ein hadnoddau.

“Dylen nhw fod o fudd i’n cymunedau.

“Mae’r system hon yn costio miliynau i gymunedau Cymru.

“Yn ystod oes glo, roedd ein cyfoeth yn cael ei echdynnu er mwyn adeiladu ffortiwn yn rhywle arall.

“Rŵan, yn ystod oes ynni adnewyddadwy, mae hanes yn ailadrodd ei hun.

“Rhaid i ni beidio â gadael i hyn ddigwydd.”

‘Grymuso Cymru’

Yn ôl Llinos Medi, mae datganoli Ystad y Goron yn bwysig er mwyn grymuso Cymru i fuddsoddi yn ei dyfodol ei hun.

“Dychmygwch beth ellid ei gyflawni drwy ddilyn model yr Alban o fuddsoddi elw’n uniongyrchol mewn cymunedau arfordirol tlotach,” meddai.

“Ond dydy’r Bil ddim yn sôn am ddatganoli’r Ystad i Gymru – ond mae’n rhoi pwerau buddsoddi a benthyg newydd i Ystad y Goron.

“Mae’n wrthun y gall fod gan Ystad y Goron bwerau ariannol llawer cryfach na Llywodraeth genedlaethol Cymru.

“Rydym yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrando, nid yn unig ar Blaid Cymru, ond ar gydweithwyr Llafur eu hunain yn Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn ymwneud â rhoi’r cyfarpar i Gymru i greu economi gryfach a thecach.

“Cymru sydd biau’r arian; mae’n bryd ei ddychwelyd adref.”