Mae Llys Ynadon Llandudno wedi rhewi cyfrifon Americanwr gafodd ei ddal yng Nghymru ar ôl bod ar ffo am 21 o flynyddoedd.

Cafodd Daniel Andreas San Diego, sy’n 46 oed, ei arestio ym Maenan ger Llanrwst ym mis Tachwedd.

Aeth gerbron y llys trwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh yn Llundain heddiw (dydd Llun, Ionawr 6).

Fe wnaeth yr heddlu gais i rewi ei gyfrifon am flwyddyn er mwyn parhau â’u hymchwiliad.

Daeth ymchwilwyr i wybod am dri chyfrif â thros £20,000 ynddyn nhw yn enw ‘Danny Webb’, sef ffugenw ddefnyddiodd Daniel Andreas San Diego, sydd yn y ddalfa yn aros i gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.

Cefndir

Mae Daniel Andreas San Diego wedi’i amau o ffrwydro bom mewn dau adeilad yn San Francisco yn 2003.

Cafodd ei arestio fis Tachwedd yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu’r Gogledd a’r Asiantaeth Torcyfraith Genedlaethol.

Mae lle i gredu ei fod e wedi bod yn byw ym Maenan ers nifer fawr o flynyddoedd, gan ddefnyddio ffugenw.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel “eithafwr hawliau anifeiliaid” gan yr FBI.

“Wnawn ni fyth wybod sut wnaeth yr Heddlu Gwrthderfysgaeth ganfod y boi yma”

Efan Owen

Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, fu’n ymateb ar ôl i Heddlu’r Gogledd helpu’r FBI i ddal dyn sydd wedi’i amau o droseddau brawychol