Mae’n bosib na fyddwn ni byth yn gwybod sut y llwyddodd Heddlu’r Gogledd, ar y cyd â’r FBI, i ddal dyn sydd wedi’i amau o droseddau brawychol, yn ôl cyn-Gomisiynydd y llu.
Cafodd Daniel Andreas San Diego, oedd ar restr ‘Most Wanted‘ yr FBI am droseddau honedig ddau ddegawd yn ôl, ei arestio gan Heddlu’r Gogledd ddydd Llun (Tachwedd 25).
Fe lwyddodd i ffoi rhag yr awdurdodau am ugain mlynedd, a hwythau’n ei amau o osod bomiau ffrwydrol yn 2003.
Cafodd ei ganfod a’i arestio mewn ardal goediog ym Maenan ger Llanrwst yr wythnos hon.
Mae e bellach yn wynebu cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau, ar ôl bod gerbron ynadon yn Llundain a’i gadw yn y ddalfa.
Roedd gwobr ariannol o $250,000 (£199,000) ar gael am wybodaeth fyddai’n arwain at ei arestio.
Wrth siarad â golwg360, mae Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, wedi bod yn trafod y camau posib y byddai’r heddlu wedi’u cymryd yn ystod eu hymdrechion i ddod o hyd i’r unigolyn sydd dan amheuaeth.
Heddlu Gogledd Cymru’n darparu logisteg
“Dw i’n meddwl bod hwn wedi dod yn gyntaf gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn Llundain,” meddai’r cyn-blismon, adawodd ei rôl yn Gomisiynydd yn 2021.
“Mae’n debyg fod y wybodaeth wedi dod ganddyn nhw’n gyntaf, a bod Heddlu’r Gogledd wedi bod yn gyfrifol o ran trefnu logisteg.
“Mae’n debyg y byddai plismyn arfog wedi bod yn gysylltiedig, a Heddlu’r Gogledd fyddai wedi darparu’r rheiny.
“Nhw fyddai wedi darparu’r cynllun, hefyd.
“Maen nhw’n ’nabod yr ardal.”
‘Eithafol’
Ond sut y bu iddyn nhw ddal dyn oedd ar ffo ers blynyddoedd lawer?
“Wnawn ni fyth gwybod, dwi’m yn meddwl, sut wnaeth yr Heddlu Gwrthderfysgaeth ganfod y boi ’ma,” meddai Arfon Jones wedyn.
“Yn amlwg, fydden nhw ddim eisiau rhannu’r manylion tactegol gyda’r cyhoedd.
“Mae’r boi yma’n foi go beryg.
“Mae o’n eithafol, ac mae’n debyg nad ydy o wedi rhoi’r gorau i’w ddaliadau gwleidyddol yn ystod y cyfnod.
“Mae’n bosib, hwyrach, ei fod o wedi cysylltu gyda grwpiau terfysgaeth eraill yn y wlad yma, a hwyrach bod yr Heddlu Gwrthderfysgaeth wedi bod yn goruchwylio’r rheiny.
“Dyna’r ffordd fyswn i’n meddwl sydd fwyaf tebygol o ran sut fydden nhw wedi’i ddal o.
“Neu, wrth gwrs, mae’n bosib eu bod nhw wedi cael cudd-wybodaeth gan yr Unol Daleithiau, bod perthynas neu ffrind wedi rhoi gwybodaeth i’r FBI.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Heddlu’r Gogledd.