Dyma gyfres sy’n agor y drws ar rai o gaffis Cymru sydd, yn aml, yn ganolbwynt y gymuned. Byddwn ni’n siarad efo’r perchnogion am y bwyd, y coffi, y cwsmeriaid, yr heriau a’r troeon trwstan – bydd digon ar y fwydlen i gnoi cil drosto. Yr wythnos hon, Rhodri Evans, perchennog caffi Ffloc yn Nhreganna, Caerdydd, sy’n cael sgwrs dros baned efo golwg360…
Wnes i agor Ffloc ym mis Hydref 2021 ynghanol y pandemig. Fuon ni wrthi am bron i ddeufis yn tynnu popeth mas gan gynnwys y llawr ac yna’n ailadeiladu. Wna’i ddim sôn gormod am y digwyddiad pan aeth fy nghoesau i a fy mhartner busnes drwy’r llawr!
Fe wnes i weithio gyda Steffan Dafydd o gwmni Penglog ar ein gwaith brand ar y dechrau. Mae’n dod o’r ardal ac wedi creu dyluniad hollol unigryw sydd ar ein cwpanau ni. Mae gwaith celf Mari [Gwenllian] o gwmni HIWTI ar ein waliau hefyd ac mae’n cwsmeriaid ni’n dwlu arnyn nhw.
Roedden ni eisiau agor caffi cymunedol ar heol fawr Treganna yng Nghaerdydd sef Heol Ddwyreiniol y Bont-faen. Rydyn ni’n gaffi Cymraeg a Chymreig: y cynnyrch, ein staff a phopeth sydd ar werth yn ein Pantri. Rydyn ni’n fusnes bach sy’n gwneud ein gorau i gefnogi busnesau bach eraill.
Dwi’m yn siŵr os ydy bod yn athro cerdd mewn ysgol uwchradd yn brofiad perthnasol i sefydlu caffi?! Efallai ddim! Beth am y profiad o weithio ym mar gwesty’r Diplomat yn Llanelli pan oeddwn i’n tyfu lan?! Neu swydd yn y Glôb ym Mangor pan oeddwn i yn y brifysgol yno? A chael y sac am beidio troi lan i shifft er mwyn yfed yn yr union un dafarn gyda ffrindiau?!
Dwi wastad wedi dwlu ar gaffis – bwyta mas a gwylio pobl a’r byd yn mynd heibio felly doedd hwn ddim yn gam gwbl annisgwyl.
‘Dan ni’n gwerthu llwyth o goffi – o fore gwyn tan nos a hynny saith diwrnod yr wythnos. ‘Dan ni’n gweithio gyda chwmni sy’n rhostio coffi eu hunain ym Mhontyclun, lan yr hewl – sef Fat Whites. Rydyn ni hefyd yn gwerthu coffi cwmni bendigedig o Gaernarfon sef Coffi Dre.
O ran bwyd, mae gyda ni fwydlen frecwast amrywiol ond y prif atyniad ydi’r brechdanau caws wedi’u crasu. Maen nhw’n swmpus, yn llawn blas ac yn llenwi bol! Un o’r rhai mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw’r ‘Chicken Tikka Masala.’ Tomen o gaws, cyw iâr mewn saws masala cartref a photyn o iogwrt blas mintys a phicl leim poeth yn gwmni iddo. Mae’r byrgyrs a’r sglods yn boblogaidd hefyd.
‘Dan ni’n gwerthu prydau arbennig o fis i fis gan ddibynnu ar y tymhorau hefyd. Mae gyda ni frechdan Nadolig ar gael ar hyn o bryd sy’n cynnwys caws brie, twrci wedi’i rostio, soch mewn sach, stwffin a saws llugaeron. Gyda photyn o grefi cartref i ddipio’r frechdan ynddo!
Mae pob math o gwsmeriaid yn dod yma – ‘dan ni’n eu galw nhw’n Fflocwyr! Pobl o bob cwr o’r ddinas o bob oedran a chefndir. Plant ysgol, pobl ar y ffordd adref o’r cwrdd yng Nghapel Salem ar y Sul, pobl ar y ffordd o gampfa Iechyd Da lan yr hewl, pobl ar eu pen eu hunain sy’n chwilio am le i weithio gyda dishgled am awr neu ddwy, teuluoedd ar eu ffordd i gemau pêl-droed Clwb Dinas Caerdydd, criwiau sy’n hoffi yfed cwrw neu win ganol pnawn gyda’u bwyd. Rhai sydd am brynu rhywbeth o’r Pantri – fel copi o Golwg neu Barn, cerdyn neu anrheg – a chael coffi a chacen gloi wrth wneud. Dysgwyr sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg, pobl o’r gogledd a’r gorllewin sy’n ymweld â’r ddinas – i weld rhyw gêm rygbi neu i aros gyda theulu a ffrindiau – a chŵn a’u perchnogion wrth gwrs! Mae croeso i bawb yn Ffloc!
Mae gyda ni bantri mawr yn y caffi sy’n gwerthu cynnyrch Cymreig – fel arfer wedi’i greu gan grefftwyr annibynnol. Mae gemwaith Vicky Jones o Aberystwyth yn boblogaidd, addurniadau Glesni Haf o Grefftau’r Bwthyn, sy’n defnyddio carthenni Cymreig, yn hedfan mas, a hefyd cynnyrch ymolchi cwmni Cole & Co o Fiwmares, a bwyd bendigedig Halen Môn. Heb anghofio bwydydd o Sbaen drwy law cwmni Ultracomida o Aberystwyth. Mae llyfrau yn boblogaidd – dw i’n meddwl mai nofel Gwenllian Ellis (Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens) ydi ein gwerthwr gorau o bell hyd yma. Beth fydd nesaf?! Mae rhywbeth at ddant pawb yma.
Rydyn ni’n falch o fod wedi ysbrydoli criw lleol i sefydlu grŵp casglu sbwriel yn yr ardal. Maen nhw’n cwrdd yn rheolaidd, yn aml o flaen Ffloc, i #TaclusoTreganna neu #CymoniCanton. Weithiau, fe welwch chi ni mewn marchnadoedd ffermwyr ar draws y ddinas yn coginio ein brechdanau caws wedi’u crasu yn yr awyr agored. Rydyn ni hefyd wedi cynnal nifer o gigs yn y caffi. Felly, cadwch lygad ar Instagram i weld beth fydd nesaf!
Dydi rhedeg busnes dy hun ddim yn hawdd – neu byddai pawb yn ei wneud e! Ond mae’n braf cael gweithio i ti dy hunan, cynnig cyflogaeth i bobol leol, cefnogi busnesu bach eraill a chael creu cymuned newydd sbon a’i gweld yn tyfu.