Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn annog pobol i ddechrau’r flwyddyn newydd drwy roi anrhegion Nadolig diangen i’r elusen.

Byddai’r elusen yn falch o dderbyn unrhyw eitemau o safon, gan gynnwys dillad, gemwaith, llyfrau a gemau, gan fod hynny’n atal dros 56,000 tunnell o nwyddau rhag mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.

Mewn arolwg diweddar, roedd traean o bobol yng ngwledydd Prydain wedi cyfaddef nad ydyn nhw byth yn defnyddio eu hanrheg Santa Cudd.

Felly, yn lle gweld eich anrhegion yn casglu llwch, mae’r elusen yn annog y genedl i’w rhoi yn y post neu i’r siop leol.

‘Helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd’

Dywed Allison Swaine-Hughes, Cyfarwyddwr Manwerthu gyda Sefydliad Prydeinig y Galon, fod y cyfnod wedi’r Nadolig “yn amser gwych i ddatrys unrhyw beth yn y cartref sy’n achosi annibendod”.

“Os oes gennych chi unrhyw eitemau yr hoffech chi eu rhoi, gadewch nhw i unrhyw un o’n 680 o siopau, neu bostiwch nhw am ddim.

“O anrhegion Nadolig sydd ddim cweit wedi’u gwneud allan o’r bocs neu lyfrau mae gennych chi ddau ohonyn nhw nawr, yn y BHF, rydyn ni’n dibynnu ar y rhoddion hael gan y cyhoedd i barhau i ariannu ein hymchwil achub bywyd.

“Bydd pob eitem gaiff ei gwerthu yn helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd ar gyfer Nadoligau i ddod.”