Pa lyfrau fuodd golygyddion a gohebwyr Golwg a golwg360 yn ymgolli ynddyn nhw eleni, tybed?


Efa Ceiri

Mae gen i sawl llyfr sy’n sefyll allan dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda Where The Crawdads Sing a The Women yn uchel ar y rhestr. Ond o ran llyfr gefais i fy nhynnu i’w orffen yn gyflym, mae’n rhaid dweud mai Loosely Based On A Made Up Story gan y cerddor James Blunt sydd yn mynd â hi – ac nid dim ond oherwydd bod gen i gopi o’r llyfr wedi’i arwyddo!

Dw i wedi mwynhau ei gerddoriaeth ers sawl blwyddyn bellach. Da oedd ei weld mewn clwb yn Ibiza llynedd – a gwell fyth oedd cael cwrdd ag o wyneb yn wyneb tra’r oeddwn i’n gweithio yng Ngŵyl y Gelli ym mis Mai.

Doeddwn i ddim yn rhy obeithiol ar y cychwyn, ond o’r tudalennau cynnar roedd ei ddawn am ysgrifennu’n ddoniol yn amlwg. Mae’r nofel yn rhoi cipolwg unigryw o fywyd y seren bop – o’i ddyddiau fel soldiwr i’w fywyd erbyn hyn ar un o ynysoedd mwyaf swnllyd Ewrop.

Mae’n hunangofiant difyr iawn sy’n dangos bod James Blunt yn fwy na’r one hit wonder mae llawer yn ei alw!

 

Alun Rhys Chivers

Ers hanner canrif bellach, fe fu bro fy mebyd yn falch iawn o’i gorsaf radio, Sain Abertawe / Swansea Sound. Ychwanegwch at hynny y cysylltiad â chwmni golwg yn y ffaith mai Siân Sutton, cyn-olygydd y cylchgrawn, fu’n golygu Chwyldro ym Myd Darlledu, a does dim syndod efallai mai’r gyfrol honno sydd wedi dal fy sylw eleni.

Mae’r broliant yn nodi: “Hanner can mlynedd yn ôl roedd ardal Abertawe a de orllewin Cymru yn rhan o arbrawf mawr ym myd darlledu. Yno, yn 1974, y penderfynodd yr Awdurdod Darlledu Annibynnol sefydlu’r orsaf radio annibynnol gyntaf yng Nghymru a’r seithfed drwy wledydd Prydain.”

Mae hefyd yn sôn am “agosatrwydd a chynhesrwydd oedd yn rhan o’r berthynas newydd rhwng radio lleol a’r gwrandawyr”. Fel un gafodd fy addysg yn y ddinas, byddai’r agosatrwydd a chynhesrwydd i’w deimlo’n rheolaidd wrth i’r tîm ddod draw i’n hysgol gynradd yn rheolaidd i ddarlledu cyngerdd fyw ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Yn ogystal â rhai enwau adnabyddus drwy Gymru gyfan, megis y diddanwr Max Boyce, y darlledwyr Vaughan Roderick, Siân Thomas a Garry Owen, a’r gwleidydd Cefin Campbell, mae’r cyfraniadau ac atgofion gan nifer o drigolion lleol y fro yn sicrhau bod yna rywbeth i bawb yn y cofnod teilwng hwn o ddarn pwysig o hanes a threftadaeth Gymraeg Abertawe.

 

Efan Owen

Mae Gobaith Mawr y Ganrif, nofel ddiweddaraf Robat Gruffydd, yn bortread lled-goeglyd o ddosbarth canol Cymraeg de Cymru. Mae’r stori ddychanol yn tynnu’n sylw at gymdeithas sydd, o bosib, ychydig yn rhy glos, ychydig yn rhy gyfforddus, ac ychydig yn rhy hunanfodlon. Hanes pennaeth sefydliad ffuglennol Corff yr Iaith, Menna Beynon, sydd yma, wrth iddi ddod wyneb-yn-wyneb â goblygiadau ei gorffennol radicalaidd. Mae’n fyd cyfarwydd, a does dim dwywaith bod olion Dave Datblygu i’w canfod rywle (er mai Range Rover sy’n ymddangos yma, nid Volvo!), ond mae dawn arbennig gan y nofel i fedru gwatwar a thynnu coes heb i’r feirniadaeth droi’n ddirmyg. Mae’r sgwennu’n huawdl, heb fod yn anelu at ieithwedd farddonol, a’r stori’n afaelgar ac yn symud yn ei blaen yn chwim. Mi dreuliais i hanner y darllen yn crechwenu, a’r hanner arall yn siglo fy mhen!

 

Elin Owen

Heb os, fy hoff lyfr o 2024 oedd V + Fo, sef nofel gyntaf Gwenno Gwilym. Er y bysa rhai yn siŵr o amau mai chick-lit ydy’r nofel oherwydd ei theitl, mae V + Fo yn treiddio’n ddyfnach na hynny.

Nofel am gwpl ifanc priod efo dau o blant bach ydy hi, sydd wedi’i sgrifennu mewn ffordd ychydig yn wahanol i’r arfer. O bennod i bennod, mae’r nofel yn symud o’r Gymraeg i’r Saesneg wrth i’r awdur sgrifennu o bersbectif V, a’i gŵr Rob, sydd ddim yn rhugl yn y Gymraeg. Mae yna Wenglish ynddi drwyddi draw, ac mae hynny’n ychwanegu at ba mor realistig ydy hi fel nofel, yn fy marn i – mae’n rhannu sut mae teuluoedd dwyieithog yn jyglo ieithoedd y dyddiau yma, weithiau’n ddidrafferth, ac weithiau’n arwain at ffrae (fe welwch chi ambell enghraifft ddoniol yn y nofel!).

Prin, dw i’n meddwl, ydy nofelau hollol unfiltered yn y Gymraeg, ac mae hon yn bendant yn un ohonyn nhw.

Fel un o’r gogledd-orllewin, braf hefyd oedd cael darllen am brofiadau V yn tyfu i fyny mewn ardal dw i’n ei nabod. O’r cyfeiriadau at y mynyddoedd mae V yn mwynhau eu cerdded, i’w theithiau hi adref drwy’r chwarel ar ôl noson hegar, a’r tafarndai o gwmpas y dre’, ro’n i’n teimlo ryw fath o nostalgia am yr ieuenctid dw i’n dal i’w fyw.

Do’n i wir ddim eisiau i V + Fo ddod i ben, a dw i’n methu disgwyl i weld beth arall sydd ar y gweill gan Gwenno Gwilym. Am nofel gyntaf!

 

Cadi Dafydd

Anaml fydda i’n darllen llyfrau pan maen nhw’n dod allan, a dim ond cwpwl o’r llyfrau dw i wedi’u darllen eleni gafodd eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn. Dw i’n dal i drio mynd drwy’r llyfrau ar y silff dw i heb eu darllen, ac un o’r rhai oedd yn syllu arna i ers sbel oedd Gladiatrix gan Bethan Gwanas. Cafodd y nofel ei chyhoeddi yn 2023, felly dw i wedi bod reit brydlon efo hon o gymharu â nofelau eraill fel Caersaint (Angharad Price) a Tri Diwrnod ac Angladd (John Gwilym Jones) ddarllenais i eleni.

Mae Gladiatrix wedi’i gosod yn ystod y ganrif gyntaf Oed Crist, ac yn dechrau gydag ymosodiad y Rhufeiniaid ar y Derwyddon ar Ynys Môn. Mae’r nofel yn mynd â ni o lannau’r Fenai i Rufain a Thwrci, gan ddilyn hanes dwy chwaer o’r Fam Ynys i ddod yn gladiatrixes. Fysa hi wedi bod yn hawdd i’r awdur fynd â ni i gors wrth gyflwyno holl ryfelwyr y Celtiaid, y Derwyddon a’r Rhufeiniaid, ond mae holl is-blotiau’r nofel yn dod at ei gilydd yn slic ac yn ychwanegu at brif stori Rhiannon a Heledd.

Er bod yna lot o drais a lladd yn y penodau cyntaf, heb sôn am weddill y llyfr, dydy’r nofel ddim yn teimlo’n dywyll, ac fe wnes i ei gorffen yn teimlo’n rhyfeddol o obeithiol, o ystyried! Fe wnes i ddod yn agos at grïo mewn sawl rhan, a chwerthin mewn rhannau eraill. Yr un peth sy’n sefyll allan yw’r portread o chwaeroliaeth a dynoliaeth, sy’n beth od i’w ddweud am nofel sydd wedi’i selio ar yr arfer o ladd am hwyl!

 

Barry Thomas

Dw i’n argymell V + Fo gan Gwenno Gwilym.

Cyfaddefiad: pan welish i deitl y llyfr yma, roedd o’n fy atgoffa o enwau un o albyms y crŵner cringoch Ed Sheeran – y gwaethaf o’r rhain yw +-=÷x…

Ond y wers fan hyn yw ‘peidiwch â barnu llyfr yn ôl ei deitl’.

Mae V + Fo yn wych, yn glyfar, yn onest, yn amrwd, yn boenus, yn ddoniol… besicli, mae’n rollercoaster emosiynol.

Dyma rai nodiadau wnes i eu hanfon at fy hun tra’n darllen nofel Gwenno Gwilym (roeddwn i wedi penderfynu o fewn y ddwy dudalen gynta’ fy mod i am ei hargymell i chi!)…

‘Neidio nôl a mlaen mewn amsar wrth adrodd sdori carwriaeth gone wrong. Clyfar a gripping…’

‘Geiria’ o’r gorffennol yn taflu cysgodion ar y presennol…’

‘Yma mae bywyd yn ei holl lanast gogoneddus.

‘Pâr sy’n briod ond wedi gwahanu. Fo’n Sais dyslecsic posh sy wedi ei greithio gan ysgol breifat; hitha’n josgin o’r wlad oedd ddim digon o Gymraes i’w mam. Y ddau yn poeni am effaith tor-priodas ar y plantos.

‘Llarpiais y llyfr dwyieithog yma gydag awch mochyn mewn budreddi/I gobbled up this book with the glee of a pig in muck… ia, rwbath fel’na.’

Ôl-nodyn: yn amlwg, mae’r llyfr yn hanner Cymraeg a hanner Saesneg. Ei stori hi yn Gymraeg, a’i stori Fo yn Saesneg.

Felly dydi’r ddau ddim jesd yn gweld eu perthynas mewn ffyrdd gwahanol, ond maen nhw yn trafod y berthynas honno mewn ieithoedd gwahanol. Ac mae hynny yn cyfoethogi a chryfhau’r dweud.

 

Non Tudur

Amhosib dewis un ffefryn, ond dyma ambell lyfr y cefais flas arno wrth ymchwilio cyn mynd ati i holi’r awduron eleni ar gyfer Golwg.

Helfa (Y Lolfa, mis Ionawr) gan Llwyd Owen, sy’n bencampwr ar y nofel gyffro erbyn hyn, am garcharor â’i fryd ar ddial. (“Mae dial yn deimlad, yn reddf, y gall pawb uniaethu ag ef, er nad yw’r rhan fwyaf ohonom yn mynd i’r fath eithafiaeth â’r cymeriadau yn fy nofelau i,” meddai’r awdur wrth Golwg). Roedd wedi rhoi cymeriad benywaidd cry’ yn y stori, gyrrwr tacsi o’r enw Hels, sy’n wastad yn beth da. A gwerth crybwyll Drws Anna (Carreg Gwalch, mis Mawrth), nofel heriol a deallus gan y sgrifennwr disglair o Lanrwst, Dafydd Apolloni.

Roedd llyfr Huw Stephens, 100 Records (Y Lolfa, fis Mai) mor safonol o ran diwyg a thestun fel ei fod yn ffefryn amlwg. Mae hi’n anodd maddau iddo am hepgor Anweledig, un o fandiau mwya’ dylanwadol eu hoes, o’r llyfr, nac enwi un o recordiau’r Cyrff neu Edward H yn benodol. Ond hen gonan yw hynny: mae’n llyfr ysblennydd, ac yn anrheg perffaith. Ac roedd safon a sbri i’w cael yng nghofiant hwyliog Melanie Owen, Oedolyn (ish!) (Y Lolfa, Hydref). Roedd ambell wers hanfodol am wahaniaethau a pharch i’w canfod yng nghanol y miri a’r misdimanars, gan y llances o Aberystwyth.

Mae nofel gyntaf Gwenno Gwilym, v + fo (Gwasg y Bwthyn, Tachwedd), wedi dechrau denu canmoliaeth. Mae hi mewn arddull lafar iawn ac yn byrlymu mynd. Mae yna dalpiau byrion yn Saesneg i gyd, heblaw am ambell i air Cymraeg – y nod yw adlewyrchu bywydau amlieithog nifer fawr o Gymry heddiw. Mae’r wasg wedi rhoi rhybudd ar y clawr am y rhegi a’r Wenglish, jest rhag ofn. Ar y pegwn arall, o ran arddull iaith o bosib, mae nofel ddiweddaraf Angharad Price, Nelan a Bo. Bydd nifer o bobol yn ei darllen ag awch oherwydd meistrolaeth yr awdur ar deithi’r iaith.

Un o’r cyfrolau difyrraf eleni oedd Golwg Ehangach: Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria (o’r gyfres Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig, Gwasg Prifysgol Cymru, mis Chwefror) gan Ruth Richards. Tynnodd John Thomas, oedd â stiwdio yn Lerpwl o’r enw Cambrian Gallery, lun rhai o fawrion ei oes, fel Cranogwen, Talhaiarn ac Eos Cymru, ond hefyd gymeriadau cyffredin, llawer tlotach, fel Sion Sodom, Abersoch. Mae ei luniau, tua 3,000 o negyddion, ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol ers 1927, ar ôl marwolaeth O M Edwards, oedd wedi cynnwys llawer ohonyn nhw yn ei gylchgrawn, Cymru. Roedd John Thomas yn portreadu’r un bobol â’i gamera ag yr oedd Daniel Owen yn eu hanfarwoli yn ei nofelau yn yr un cyfnod, ac yr un mor graff. Yn niffyg oriel genedlaethol bwrpasol Gymreig, mae llyfr fel yma sydd yn dangos ac yn dehongli delweddau fel yma yn werthfawr iawn i ni’r Cymry.

Mae dwsinau o lyfrau da, hanfodol eraill wedi eu cyhoeddi eleni. Y pryder i lawer yn y byd cyhoeddi yw p’un a welwn ni lai o’r fath amrywiaeth yn 2025, yn sgîl y toriadau dadleuol i goffrau’r Cyngor Llyfrau. Os y digwydd hynny, siawns y bydd un o gymeriadau Llwyd Owen â’i fryd ar ddialedd o’r math gwaethaf…