Ar drothwy’r bennod olaf erioed o’r rhaglen boblogaidd Gavin and Stacey, mae’r actores Gillian Elisa wedi bod yn siarad â golwg360 am ei phrofiadau o ymddangos ar y sioe ddwywaith, a’i pherthynas gyda’r “hyfryd” Ruth Jones, cyd-awdur ac un o sêr y gyfres.
Fe chwaraeodd Gillian Elisa gymeriad y ‘Lingerie Lady’ yn nyddiau cynnar y rhaglen, ac yna gymeriad y ‘Welsh Nationalist’ yn y drydedd gyfres.
Gyda phoblogrwydd Gavin and Stacey wedi dal ei dir ers dros 17 mlynedd bellach, bydd hynt a helynt y teuluoedd o Ynys y Barri a Billericay yn dirwyn i ben ar Ddydd Nadolig.
‘Teimlad arbennig ar y set’
Gyda Gillian Elisa yn “teimlo bod y gyfres yn boblogaidd iawn”, roedd hi’n awyddus i fod yn rhan o’r gyfres o’r cychwyn un, meddai.
Ond oherwydd amserlen brysur yn perfformio yn y sioe theatr Billy Elliot, roedd yn rhaid iddi wrthod sawl rôl, megis bydwraig – rôl roedd Donna Edwards wedi’i chwarae yn y pen draw.
Felly, pan ddaeth lle yn ei dyddiadur prysur, a phan ofynnodd Ruth Jones iddi chwarae rhan y Lingerie Lady yn ystod ffair briodas Gavin a Stacey, doedd dim rhaid iddi oedi cyn bachu ar y cyfle.
Daeth cyfle iddi ddychwelyd i’r sioe yn y drydedd gyfres, i chwarae rhan y fenyw oedd yn angerddol dros y Gymraeg ym maes carafannau Nessa (Ruth Jones) a Dave (Steffan Rhodri) ar y pryd.
“Mae yna deimlad arbennig ar y set, mae pawb yn joio, pawb,” meddai wrth golwg360.
“A dim ond blas ohono fe dw i wedi’i gael, felly alli di ddychmygu’r cast yma, maen nhw siŵr o fod mor euphoric gyda’r holl beth.
“[Y tro cyntaf] Mi oeddwn i mewn siop briodas yn rhywle, a fy nghymeriad i oedd y fenyw oedd yn dweud, “Oh! Nessa! You look fabulous”.
“Mi oedd y llinell yna mor ddoniol a syml, mi oeddwn i bron methu â’i ddweud e.
“[Yn yr olygfa], Fe agorodd Nessa’r llenni mewn ffordd eithaf aggressive, ac mi oedd hwnnw wedi arwain fi i chwerthin yn y lle cyntaf.
“Bron i fi dagu ar y llinell, a dim anadl i’w ddweud e!
“Dw i’n credu taw’r take cyntaf oedd hwnnw, ac mi wnes i ddweud, “We’d better do it again because I couldn’t hear myself!”
Perthynas Gillian Elisa a Ruth Jones
Mae perthynas Gillian Elisa a Ruth Jones yn estyn yn ôl dros nifer o flynyddoedd, gyda’r ddwy wedi ymddangos ochr yn ochr â’i gilydd yn y gyfres Stella.
Fe fu’r naill hefyd yn cynorthwyo’r llall yn ei hymdrech i ddatblygu ei Chymraeg ar y rhaglen Iaith ar Daith yn 2020.
“Dw i’n cofio cwrdd â hi am y tro cyntaf, ac yn ei hoffi hi straight away,” meddai Gillian Elisa wedyn.
“Mae hi’n berson mor hyfryd i weithio gyda hi; mae hi’n lot o hwyl, a dydw i ddim yn gwybod o ble mae hi’n cael yr egni!
“Mae hi’n gallu cynnal ei hunan yn arbennig yn y gwaith aruthrol yma mae hi’n ei wneud.
“Dros y Nadolig, mae ei phortread hi o Hattie Jacques ymlaen hefyd, ac mae’r [ffilm] yna yn werth ei gweld; mae ei gwylio hi yn honna fel gwylio Nessa yn Gavin and Stacey – ti’n anghofio taw Ruth yw hi!
“Mae hi’n browd iawn ei bod hi’n gallu siarad Cymraeg ac mi roedd hi wedi mwynhau Iaith ar Daith yn fawr iawn, a finnau hefyd.
“Mi gafon ni lot o sbort.
“Mae’n bwysig helpu pobol sydd eisiau symud ymlaen yn eu Cymraeg drwy gamu yn ôl, a gadael iddyn nhw redeg gyda’r iaith.
“Mi oeddwn i’n teimlo’n freintiedig iawn ei bod hi wedi fy newis i.”
‘Holl bwynt perfformio yw rhoi syrpreis i bobol’
Er gwaethaf llwyddiant y gyfres ar hyd y blynyddoedd, mae Gillian Elisa o’r farn fod yn rhaid i’r gyfres gyrraedd y diwedd er mwyn osgoi diflastod.
Fel miloedd o wylwyr brwd, mae hithau hefyd yn edrych ymlaen i weld sut ddiweddglo fydd i hanes Gavin, Stacey, Smithy, Nessa a’u teuluoedd.
“Mae’n drist ei fod yn cwpla ond mae’n rhaid symud ymlaen, neu rwyt ti’n gallu lladd yr egni a’r hwyl ynddo fe,” meddai.
“Maen nhw’n dda am hysbysebu’r busnes yma, ‘Dydyn ni ddim yn gwneud pennod arall’, ond wedyn maen nhw [yn gwneud pennod arall].
“Mae hwnnw’n chwarae ar fy meddwl i am ryw reswm; dw i wastad yn meddwl, ‘Beth sydd nesaf?’
“Dw i’n adnabod Ruth yn dda iawn, ond fyddai hi byth yn dweud wrtha i [pe bai pennod arall i ddod].
“Pan oeddwn i’n symud o Lundain i Lanbed, mi oedd hi wrthi’n gwneud y bennod Christmas Special [2019] ac mi wnaeth hi fy helpu i symud.
“Fe daflon ni bopeth mewn i’r car, ac mi oedd hi ar y ffôn drwy’r amser yn siarad am y bennod Nadolig.
“A sa i’n gwybod sut y gwnaeth hi fe, ond glywes i ddim byd!
“Dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn eto beth [sydd i’w ddisgwyl o’r bennod olaf].
“Dw i’n licio’r syrpreis; does dim rhaid i mi wybod.
“Mae e’r un peth â gwneud unrhyw job; mae’n rhaid i ti ei gadw fe o dan dy gap rili, achos mae’n bwysig peidio dweud.
“Holl bwynt perfformio yw rhoi syrpreis i bobol.”
Mae modd clywed rhagor o hanes Gillian Elisa a chymeriadau eraill y gyfres ar y rhaglen The Gavin and Stacey Experience ar BBC iPlayer.
Bydd pennod olaf Gavin and Stacey yn cael ei darlledu ar Ddydd Nadolig am 9 o’r gloch ar BBC1.