Os ydach chi wedi cael llond bol o wledda a gwylio’r teli erbyn Gŵyl San Steffan, ewch draw i Ddinbych i fwynhau hen draddodiad – Cystadleuaeth Rholio’r Gasgen Cymru 2024.

Ia, dyna chi, y gamp ydy rholio casgen i fyny stryd fawr Dinbych ar fore Gŵyl San Steffan. Mae’r digwyddiad blynyddol, sy’n cael ei drefnu gan Glwb Rotari Dinbych, yn denu torf fawr i wylio rasys y dynion a’r merched.

Yn y gorffennol mae’r digwyddiad wedi denu cystadleuwyr o Awstralia, yr Unol Daleithiau a Sbaen. Mae cystadleuaeth gyda chasgen lai ar gyfer plant hefyd a bydd yr enillwyr yn derbyn cwpan arbennig.

Bydd gorymdaith o hen dractorau drwy’r dref cyn y brif ddigwyddiad

Bydd gorymdaith o hen dractorau yn mynd ar daith drwy’r dref am 10.30yb, ac yna bydd ceffylau a helgwn Helfa’r Fflint a Dinbych yn ymgasglu ar y Stryd Fawr cyn mynd ar eu taith am 10.45yb, a bydd y prif ddigwyddiad yn dechrau am 11yb.

Bydd ceffylau a helgwn Helfa’r Fflint a Dinbych yn ymgasglu ar y Stryd Fawr cyn mynd ar eu taith am 10.45yb

Gallwch gofrestru yn rhad ac am ddim ar y diwrnod ei hun.  Felly rhowch y Quality Street i’r naill ochr ac ewch i fwynhau digwyddiad traddodiadol ac awyr iach yn Ninbych!