Dyma eitem sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Bernice sy’n dweud pam ei bod yn hoffi Rhosllanerchrugog yn Sir Wrecsam. Mae Bernice yn dod o ardal Llangollen yn wreiddiol ond roedd yn byw ger Llanelli am nifer o flynyddoedd. Rŵan mae hi’n byw yn Sir Wrecsam. Mae Bernice yn gwneud Cwrs Gloywi Iaith ar hyn o bryd. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2013. Roedd hi hefyd wedi dysgu Cymraeg pan oedd hi yn yr ysgol, nes ei bod yn 14 oed.
Dyw hi ddim yn hawdd dewis un lle ond fy hoff le yng Nghymru ydy Rhosllanerchrugog, yn Sir Wrecsam – un o’r pentrefi mwyaf yng Nghymru. Mae fy nheulu yn byw yno, felly dw i’n mynd i’r pentref yn aml.
Dw i’n hoffi Rhos am fod y lle yn unigryw – yn enwedig tafodiaith Rhos! Mae pobl Rhos yn mwynhau cymryd rhan mewn ambell gymanfa ganu sy’n llenwi Capel Mawr (Jerwsalem). Mae fy nheulu yn dod o’r pentref a dw i’n gallu dychmygu fy hynafiaid yn cerdded y strydoedd cul. Dw i’n teimlo’n agos at fy ngwreiddiau pan dw i’n ymweld â’r lle.
Mae Theatr y Stiwt yn boblogaidd. Mae sioeau a dramâu Cymraeg yn cael eu perfformio yno weithiau yn ystod y flwyddyn.
Cafodd Rosemarie Frankland ei geni yn Rhosllanerchrugog. Hi oedd y fenyw gyntaf o wledydd Prydain i gael ei choroni yn Miss World yn 1961.
Mae’r actor Mark Lewis Jones a’r cerddor Daniel Lloyd o’r grŵp pop Mr Pinc yn dod o Rhosllanerchrugog yn wreiddiol hefyd.
Mae pobl Rhos yn cael eu galw’n Jacos, mae’n debyg ar ôl y Jacobitiaid gafodd eu halltudio i fyw yno ganrifoedd yn ôl.