Beth bynnag arall yw’r Nadolig inni, un peth nad oes modd ei wadu yw mai gwreiddiau crefyddol sydd i’r Ŵyl. Dyna pam mae pobol sydd yn llwyddo i gadw’n gwbl glir o gapel neu eglwys, weddill y flwyddyn, yn dewis troi mewn rywsut, rywbryd ym mis Rhagfyr.
Mae’r tymor hwn yn cosi hen ddyheadau, yn deffro’r gwerthoedd sydd yn hawdd iawn eu hanwybyddu weddill y flwyddyn, ond sydd yn mynnu eu lle yn nhymor y Nadolig. Mae’r Nadolig yn amlygu darnau chwâl ein bywyd, ac mae hiraeth yn codi o’r herwydd, am gael y darnau eto ynghyd.
Mae yna ystod eang o resymau pam mae pobol yn gollwng gafael ar ochr ysbrydol eu bywyd. Rhesymau gonest, rhesymau esgusodlyd, rhesymau gwael! Clywais stori hyfryd gan un o offeiriaid y Sblot yn ystod yr wythnos aeth heibio, stori gafodd yntau gan un o’i bobol. Gofynnodd hon wrth ei gŵr pam nad oedd e bellach yn dod gyda hi i’r offeren? Atebodd yntau nad oedd am fynychu’r offeren ragor gan nad oedd yn hoffi’r offeiriad newydd. Daeth ei hymateb fel chwip, “Dwyt ti ddim yn hoffi’r dyn tu ’nôl y bar yn y Royal Oak, ond rwyt ti dal i fynd yno am wisgi pan wyt ti eisiau un!” Roedd y gweinidog o’r Mynydd Bychan a’r offeiriad o’r Sblot yn gwbl gytûn fod y ddynes honno yn ddiwinydd o fri!
Dyma awgrym bach: beth bynnag yw eich dealltwriaeth o’r ffydd, beth bynnag yw eich syniad am bobol ffydd, ildiwch i dynfa’r Ŵyl. Pam lai? Ildiwch i dynfa’r Nadolig, a throwch i mewn i’ch addoldy lleol – y Tŷ Cwrdd agosa’… A phwy a ŵyr? Efallai y daw rhai o’r darnau ynghyd.