Un o bleserau pennaf bywyd yw rhannu bara beunyddiol – eistedd wrth bryd da o fwyd da, a rhannu cwmni a sgwrs ddifyr.

Ces i gyfle yn ystod yr wythnos aeth heibio i ddal i fyny â hen gyfaill o’r brifysgol. Buom yn cadw cysylltiad ysbeidiol ers yn hir, ond gan ei fod ar ymweliad â Chaerdydd, cawsom gyfle i gyfarfod go iawn, fel petai, a rhannu bwyd a gwin.

Bwyty Eidalaidd hyfryd – fe oedd yn talu – ac roedd awydd pysgodyn arnaf. Troi at yr adran bysgod: ‘Chilean Sea Bass’. Hyfryd! Mynegais fy awydd am y pysgodyn hwnnw, a dyna ddechrau gofidiau.

Un o nodweddion cymeriad fy nghyfaill yw fod ganddo stôr enfawr o wybodaeth ryfedd a chwbl ddiangen. Cyn i mi gael cyfle i droi llif y sgwrs, dywedodd rywbeth tebyg i hyn: “You know, Owain, Chilean Sea Bass is a made up name for marketing a really rubbish fish.” Ochneidiais! Dyma wybodaeth nad oedd ei hangen arnaf. Methodd fy ochenaid, fy nhroi llygaid, fy nghrychu talcen ag atal dim ar ei wybod: “It’s all a marketing strategy that turns very undesirable fish into palatable new commodities for restaurants. Google it…!

Mynnais nad oedd amser, amynedd nac awydd gennyf chwilio am y fath wybodaeth. Cynigodd wneud drosof, felly. Daeth â’i afal o’i boced, chwilio, ac ymhen dim, derbyniais ganddo’r manylion hyn:

  • Enw go iawn y Chilean Sea Bass yw’r Patagonian Toothfish; nid bass mohono o gwbl!
  • Dim ond nawr ac yn man, wedi iddo fynd yn llwyr ar goll, mae’r Patagonian Toothfish yn nofio’r dyfroedd ger Chile.

Blasus? Diolch byth, daeth yr amser i archebu.

Beth sydd mewn enw?

Beth sydd mewn enw? Mae mwy o rym mewn enw nag a wyddom bob amser. Nid label mohono. Pan ddywedodd Gabriel wrth Joseff, druan, y dylai enwi ei fab bychan yn Iesu, dyma Gabriel yn awgrymu enw gyda phwrpas iddo. Ystyr Iesu yw ‘Mae Duw yn Achub’; mae’r enw hwnnw’n dweud y cyfan oll sydd angen ei ddweud am Iesu ac am ystyr ei eni, ei fyw, ei farw a’i fywyd newydd.

Mae yna adegau pan dw i’n gwbl argyhoeddedig mai Patagonian Toothfish ydw i, a bod yn rhaid i mi, o’r herwydd, argyhoeddi pawb arall mai Chilean Sea Bass ydw i go iawn! Mae cynifer ohonom yn treulio ein hamser yn dalpau, ein hamynedd yn bentwr, ein hegni yn drwch – heb ddechrau sôn am arian – i farchnata ein hunain: o’r gwleidydd rhyngwladol i’r gweinidog lleol, rydym yn brysur, brysur yn ceisio argyhoeddi ein hunain ac eraill mai Chilean Sea Bass ydym: un arbennig ymhlith y Patagonian Toothfish cyffredin!

Dyma neges y Nadolig i’r Cristion: ofer y marchnata hwn. Daeth Duw atom, daeth atom i aros, daeth atom i’n hachub, a chalon yr achubiaeth honno yw fod Duw yn ein caru. Plant Duw ydym, pawb yn blentyn i Dduw. Dyma ein hunaniaeth – dyma beth ydym. Yr unig beth sydd yn ofynnol gennym yw derbyn hynny, credu hynny, a dewis byw yng ngoleuni anniffodd y wybodaeth honno.

Gan fy mod ychydig yn ystyfnig o ran natur, archebais y Patagonian Toothfish. Roedd yn flasus iawn!