“It’s the Most Wonderful Time of the Year,” canodd Andy Williams nôl yn y 1960au, ac er bod y Nadolig yn gyfle i bobol ddod at ei gilydd a dathlu, mae’n gallu bod yn amser unig a heriol iawn i eraill.
Eleni fe fydd 74,000 o bobol dros 65 oed yng Nghymru yn treulio Dydd Nadolig ar eu pen eu hunain yn gwylio’r teledu, yn ôl ymchwil newydd gan Age Cymru. Mae hynny’n gyfystyr ag un ym mhob deg person hŷn yng Nghymru.
Fydd un ym mhob pedwar (177,000 o bobol hŷn) ddim yn addurno eu cartrefi y Nadolig hwn chwaith.
Mae’r hyn sy’n cyfateb i bron i 50,000 o bobol hŷn yn dweud na fyddan nhw’n gweld, nac yn siarad ag unrhyw un ar Ddydd Nadolig, tra bod tua 40,000 o bobol hŷn yng Nghymru yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw un i gyfnewid anrhegion neu gardiau â nhw y Nadolig hwn.
Serch hynny, mae mwy na thri chwarter y grŵp oedran yn credu bod treulio amser gydag anwyliaid yn un o’r pethau gorau am y Nadolig, sy’n dangos bod llawer yn gwerthfawrogi cwmni os oedd ar gael.
Dywedodd 62% o’r rhai oedd wedi ymateb i’r arolwg eu bod yn gobeithio cael galwad ffôn gan rywun ar Ddydd Nadolig.
“Ynysig”
Mae elusen Age Cymru yn galw ar bobol i gefnogi pobol hŷn sy’n wynebu treulio’r ŵyl ar eu pen eu hunain drwy gyfrannu at wasanaethau “hanfodol”.
“Mae’r Nadolig yn amser i fod efo’n gilydd ond, yn anffodus, mae pobl hŷn yn teimlo’n fwy ynysig adeg y Nadolig nag unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. Ry’n ni eisiau newid hynny ar gyfer cymaint o bobl hŷn ag y gallwn ni,” meddai Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru.
Pa gyngor fyddai hi’n ei roi i rywun sydd eisiau helpu person hŷn sydd ddim yn awyddus i ymuno yn nathliadau teulu rhywun arall?
“Os nad ydy rhywun eisiau ymuno â dathliadau teuluol, yna fe allech chi roi cerdyn Nadolig iddyn nhw gyda’ch rhif ffôn a neges fach yn dweud ffoniwch fi os oes angen unrhyw help arnoch chi dros y Nadolig.
“Nid yn unig y bydd y neges honno’n rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r person hŷn bod cymorth ar gael pe bai ei angen arno, ond mae hefyd yn rhoi rhywfaint o hwyl yr ŵyl yn ystod tymor y Nadolig.”
‘Heriol’
A beth yw’r cyngor i’r rheiny sydd am fod ar eu pen eu hunain ar Ddydd Nadolig?
“I’r bobol hŷn hynny nad ydyn nhw eisiau bod ar eu pen eu hunain ar Ddydd Nadolig, mae’n werth gweld beth sy’n digwydd yn eich ardal leol.
“Mae llawer o ganolfannau cymunedol a grwpiau eglwys yn cynnal ciniawau Nadolig a digwyddiadau yn benodol ar gyfer pobol hŷn.
“Hefyd, mae rhai tafarndai, bwytai a chaffis yn cynnig prydau am ddim neu am bris gostyngol ar Ddydd Nadolig i’r rhai sydd am fod ar eu pen eu hunain fel arall.
“Os nad ydych yn gallu gadael eich cartref ond mae gynnoch chi fynediad i’r rhyngrwyd, gallech ystyried ymuno â chynulliadau rhithwir sy’n cael eu cynnal gan sefydliadau sy’n cynnig cwmni a hwyl yr ŵyl ar-lein.
“Os nad yw’r opsiynau hyn yn addas i chi, canolbwyntiwch ar wneud y diwrnod mor bleserus â phosibl.
“Paratowch eich hoff bryd o fwyd, gwyliwch raglenni teledu Nadoligaidd, gwrandewch ar wasanaeth carolau ar y radio, neu codwch y ffôn i ffonio ffrindiau a theulu am sgwrs.
“Os nad oes gennych unrhyw un i’w ffonio, mae The Silver Line yno bob amser i gynnig sgwrs a chwmni cyfeillgar. Gallwch eu ffonio am ddim ar 0800 4 70 80 90.
“Rydyn ni’n deall y gall treulio Dydd Nadolig ar eich pen eich hun fod yn heriol i rai, ond mae’n bwysig cofio mai dim ond un diwrnod yw hi.
“Gall cymryd camau bach i’w wneud yn arbennig yn eich ffordd eich hun wneud gwahaniaeth mawr.”
‘Achubiaeth’
Ychwanega Victoria Lloyd fod Partneriaeth Age Cymru yn “achubiaeth” i filoedd o bobol hŷn yng Nghymru sy’n teimlo’n unig, neu’n angof, neu sydd heb unrhyw un arall i droi ato am gymorth.
Mae eu gwasanaethau cynghori yn cynnig gwybodaeth a chymorth i helpu i fynd i’r afael â theimladau o unigrwydd, ac yn cynnig “cysylltiad i bobol hŷn sy’n unig, clust i wrando, a llais cyfeillgar.”
Mae’r elusen yn apelio ar bobol i gefnogi Partneriaeth Age Cymru, “i ddod â newid gwirioneddol i bobol hŷn”.