Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud wrth y Pwyllgor Materion Cymreig ei bod hi’n “anghyfiawnder hanesyddol” fod cyn lleied o fuddsoddi wedi bod yn seilwaith rheilffyrdd Cymru.

Dywedodd yn ystod cyfarfod y pwyllgor, sy’n cael ei gadeirio gan yr aelod seneddol Llafur Ruth Jones, nad yw’r sefyllfa “wedi bod yn ddigon da”.

Dywedodd fod sicrhau mwy o arian i wella’r seilwaith presennol “ar frig y rhestr siopa”, yn ogystal ag adeiladu seilwaith newydd ar y rheilffyrdd yng Nghymru.

Bydd unrhyw arian sy’n cael ei wario ddim yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru ddewis sut i’w wario gan ei fod ddim yn cael ei drosglwyddo fel yr arfer gyda pwerau datganoledig o dan system ariannu Fformiwla Barnett.

Ond wnaeth hi ddim cadarnhau ffigwr penodol.

Daw sylwadau Jo Stevens ar ôl iddi hi a Heidi Alexander, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, gyhoeddi llythyr yn dweud eu bod nhw’n “cydnabod fod rheilffyrdd yng Nghymru wedi cael lefelau isel o wariant i wella yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng nghyd-destun buddsoddiadau mawr megis HS2”.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, o dderbyn “sbarion”.

A dywed Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros y gogledd ei bod hi’n “amlwg bod y Prif Weinidog wedi bod yn darllen llythyr gwahanol iawn i’r hyn rydyn ni wedi’i ddarllen”.

“Nid yw’n cyfeirio at annhegwch HS2 nac ychwaith yn dweud y bydd Llafur yn cywiro’r anghyfiawnder o’r swm canlyniadol llawn o £4bn sy’n ddyledus i Gymru,” meddai.

“Mae Eluned Morgan yn cydblethu â dau fater gwahanol iawn.

“Pe bai Llafur o ddifrif am roi chwarae teg i Gymru, yna bydden nhw’n rhoi’r £4bn llawn sy’n ddyledus i ni, yn union fel y dywedon nhw y bydden nhw.

“Mae ein rheilffyrdd yn cael eu tangyllido ac mae dirfawr angen buddsoddiad arnyn nhw.

“Yr unig ffordd o ddarparu’r rhwydwaith rheilffyrdd sydd ei angen ar Gymru yw rhoi pŵer llawn i’n gwlad dros ein rheilffyrdd – yn union fel sydd gan yr Alban.

“Byddai hyn yn sicrhau ein bod yn osgoi anghyfiawnder HS2 rhag digwydd byth eto.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn dweud hyn ers blynyddoedd, a wnawn ni ddim stopio nawr.

“Pe bai ‘partneriaeth mewn grym’ honedig Llafur yn werth unrhyw beth, byddai hyn a’r swm canlyniadol o £4bn eisoes wedi’i gyflawni.

“Mae Plaid Cymru yn credu mewn tegwch i Gymru a’r angen i wneud penderfyniadau dros Gymru, yng Nghymru.”

‘Lloegr, a Chymru?’

Mae ariannu rheilffyrdd yng Nghymru wedi bod dan y chwyddwydr ers i waith gychwyn ar brosiect rheilffyrdd cyflymder uchel HS2.

Mae’r pwerau dros drafnidiaeth wedi’u datganoli, ond mae pwerau dros seilwaith trwm rheilffyrdd yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Er nad oes trac yn cael ei adeiladu yng Nghymru, mae llywodraethau Ceidwadol olynol wedi diffinio’r prosiect fel un ‘Cymru a Lloegr’, sy’n golygu nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyfran o arian sy’n ddyledus o dan system ariannu Fformiwla Barnett.

Mae Plaid Cymru’n dweud bod y ffigwr hwn yn agos i £4bn, neu 5% o’r £80bn sydd wedi cael ei wario ar y prosiect hyd yn hyn, ond mae llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn mynnu bod y ffigwr yma’n agosach at £350m.

‘Dim newid dros nos’

Tra bod Jo Stevens yn cyfadde’r anghyfiawnder, dywedodd wrth y Pwyllgor na fyddai newid “yn digwydd dros nos”.

Dywedodd y bydd y broses o gywiro’r cam yn cychwyn efo’r adolygiad cyllidebol.

Mae disgwyl i’r Canghellor Rachel Reeves gyhoeddi’r adolygiad ganol y flwyddyn.

Ychwanegodd Jo Stevens fod yna “gytundeb” ar draws yr adrannau perthnasol, megis Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y Weinidogaeth Drafnidiaeth, a Llywodraeth Cymru.

“Dw i ddim yn gallu newid y gorffennol, ond dwi yn gallu newid y dyfodol,” meddai wrth y Pwyllgor.


Dadansoddiad Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360:

“Er nad oes ymrwymiad i ffigwr penodol, mae heddiw’n gam sylweddol tuag at ryw fath o setliad o rhan seilwaith rheilffyrdd, os ddim o reidwydd arian canlyniadol o HS2 i Lywodraeth Cymru.

“Yn ystod yr ymgyrch cyn yr etholiad cyffredinol, daeth Jo Stevens, oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol ar y pryd, dan bwysau am sylwadau ar Y Byd yn ei Le wrth iddi awgrymu na fyddai Cymru’n derbyn arian canlyniadol HS2.

“Mi fydd llygaid nawr yn troi tuag at yr adolygiad cyllidebol, lle bydd pobol yng Nghymru’n cael gweld a fydd Jo Stevens yn derbyn yr hyn sydd ar frig ei ‘rhestr siopa’ yn sgil buddsoddiad yn y rheilffyrdd.

“Ond mae disgwyl i’r ffrae dros ariannu uniongyrchol yn ymwneud â HS2 sydd, fel mae Plaid Cymru yn dadlau, yn “ddyledus” i Llywodraeth Cymru, barhau.”