Mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr yng Nghaerffili wedi cefnogi galwadau i ddatganoli Ystad y Goron, sef tir ac eiddo’r brenin.

Mae cefnogwyr yn honni y byddai Cymru’n elwa’n uniongyrchol o’r elw fyddai’n cael ei gynhyrchu drwy harneisio adnoddau naturiol yr Ystad, gan wneud cyfraniad sylweddol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Colin Mann wrth gydweithwyr fod yr Ystad yn berchen ar 65% o dir oddi ar yr arfordir a gwlâu afonydd, a mwy na 50,000 erw o dir, sy’n werth dros £853m.

Galwodd ar gynghorwyr i gefnogi’r ymgyrch, gan annog San Steffan i drosglwydo Ystad y Goron i Gymru, gan ychwanegu bod Ystad y Goron wedi’i ddatganoli’n llwyddiannus i’r Alban yn 2016.

‘Tegwch’

“Mae hyn yn ymwneud â thegwch i Gymru,” meddai’r Cynghorydd Colin Mann o Blaid Cymru yn ystod cyfarfod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 14).

“Mae’r wlad yn colli allan ar symiau enfawr o arian.”

Fe wnaeth prosiectau ar dir yr Ystad yn yr Alban gynhyrchu £103m y llynedd, meddai wedyn.

Cafodd ei gynnig yn galw ar Gaerffili i fod y cyngor diweddaraf i gefnogi’r ymgyrch ei lofnodi gan gydweithwyr o Blaid Cymru a Llafur, gan gynnwys nifer o aelodau’r Cabinet.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, dirprwy arweinydd y Cyngor, ei fod yn gwrthwynebu’r egwyddor fod gan frenin “anetholedig” “eiddo preifat” yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Teresa Parry, oedd wedi eilio’r cynnig yn siambr y Cyngor, wrth y rhai oedd yn bresennol fod “buddiannau pobol Cymru wrth galon” y cynnig, gan ofyn iddyn nhw “ddychmygu’r hyn y gallem ei gyflawni” gyda’r arian y gallai datganoli Ystad y Goron ei gynhyrchu.

Gwrthwynebiad

Roedd eraill yn y siambr yn fwy sinigaidd ynghylch y cynigion ar gyfer datganoli, gyda’r cynghorydd Llafur Carl Cuss yyn dweud wrth gydweithwyr ei fod yn credu bod Cymru eisoes ar fin elwa ar gynlluniau’r Deyrnas Unedig ar gyfer yr Ystad.

Dywedodd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, drwy eu menter GB Energy, eisoes yn gweithio ar bolisïau i ddatblygu adnoddau naturiol yr Ystad mewn ffordd fyddai’n deg i Gymru.

Gallai taflu datganoli i mewn i’r pair “beryglu hyder buddsoddwyr” yng nghynlluniau’r Deyrnas Unedig, meddai, gan ddadlau na ddylid “sefyll yn ffordd swyddi a buddsoddiad y gallai hyn ddod yn ei sgil i Gymru”.

Fe wnaeth y cynghorwyr Elizabeth Davies a Roy Saralis fynegi pryderon am yr ymgyrch bresennol hefyd, er bod Roy Saralis yn dweud nad yw’n gwrthwynebu datganoli “mewn egwyddor”.

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Davies y gallai “gymryd peth amser” i Lywodraeth Cymru gyflwyno’u cynigion ynni eu hunain.

‘Dim niwed’

Ond fe wnaeth y Cynghorydd Lindsay Whittle, arweinydd Grŵp Plaid Cymru, honni bod y fath ddadleuon yn “dwyllodrus”, gan ychwanegu nad yw “wedi gweld biliau ynni yn gostwng” o dan y polisïau presennol.

Dydy datganoli’r Ystad “ddim wedi gwneud niwed i’r Alban”, meddai’r Cynghorydd Greg Ead, gan ddisgrifio’r gefnogaeth i’r ymgyrch yng Nghymru fel un “ychydig yn amlwg”.

Pleidleisiodd cynghorwyr o 27 i 21 o blaid cefnogi’r cynnig, gyda phedwar yn atal eu pleidlais.

Mae’r bleidlais yn golygu mai Caerffili yw’r nawfed awdurdod lleol yng Nghymru i ymuno â’r ymgyrch o blaid datganoli Ystad y Goron.