Ar ôl cyfnod o newyddion economaidd negyddol, mae’r ystadegau newydd ar chwyddiant yn cynnig gobaith i’r Canghellor Rachel Reeves.

Daeth cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher, Ionawr 15) fod chwyddiant wedi gostwng 0.1% i 2.5% ym mis Rhagfyr, yn bennaf o ganlyniad i brisiau gwestai’n gostwng a phrisiau llai na’r arfer ar gyfer hedfan.

Er gwaetha’r gostyngiad, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig 0.3% o flaen y targed o 2.2% ar gyfer chwyddiant, sy’n cynnig “seibiant” i’r Canghellor, yn ôl economegydd blaenllaw.

‘Gostyngiad yn syndod’

Yn ôl yr Athro Edward Jones, sy’n ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, roedd y gostyngiad yn “syndod” i’r rhan fwyaf o economegwyr.

“Er nad ydy o’n swnio’n llawer, mae’n sicr wedi cael effaith bositif,” meddai wrth golwg360.

Daw’r newyddion mewn cyfnod digon ansicr i economi’r Deyrnas Unedig.

Mae bondiau, sy’n cael eu gwerthu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfran llog dros gyfnod penodol er mwyn codi arian i’w wario ar wasanaethau, wedi cyrraedd eu cyfraddau uchaf ers 2004.

Dywed Edward Jones y bydd Rachel Reeves yn “ddiolchgar” o weld y ffigwr chwyddiant diweddaraf, er nad yw’n “newid mawr”.

“Ond beth mae o’n ei wneud yw rhoi ychydig bach o seibiant i Rachel Reeves, oherwydd mi oedd y bond vigilantes, fel maen nhw’n eu galw nhw, yn edrych ar Brydain ac yn teimlo bod y farchnad yn erbyn y Llywodraeth,” meddai.

“Rŵan, mae’r pryderon yn dal yno ond mae hyn yn dangos bod chwyddiant yn mynd y ffordd gywir.”

Posibilrwydd y gallai Banc Lloegr dorri cyfradd llogau

4.75% yw’r gyfradd llog ar hyn o bryd, a hynny o ganlyniad i Gyllideb Llywodraeth Geidwadol flaenorol Liz Truss yn San Steffan.

Mae hyn wedi achosi i brisiau morgeisi fod yn ddrytach.

Dywed Edward Jones ei fod yn disgwyl “y bydd Banc Lloegr yn parhau gyda’r cynllun o dorri llogau’r flwyddyn yma”.