Ers tro bellach, mae’r pwnc hwn wedi hawlio’r penawdau yma yng Nghymru, am nad oes digon o bobol ifanc yn astudio ieithoedd tramor yn ein hysgolion ni. Gan fod cyn lleied o ddisgyblion yng Nghymru yn dewis astudio iaith dramor ar lefel TGAU a Safon Uwch, mae wedi dod yn destun pryder i nifer fawr o bobol, yn enwedig wedi nifer o gwynion ynghylch rhwystrau Brexit. Bu gostyngiad o 29% yng ngheisiadau arholiadau Ieithoedd Tramor dros gyfnod o bum mlynedd yn unig.
Yn 2020, cafodd cwymp o 50% ei nodi yn nifer y disgyblion oedd yn astudio Almaeneg a Ffrangeg yn y Deyrnas Unedig, sy’n peri gofid i nifer. Felly, pam nad oes mwy o bobol am ddysgu iaith dramor?
Wel, mae llawer o bethau yn chwarae rôl yn y lleihad hwn, am wn i.
‘Pawb yn gallu siarad Saesneg’
Gyda Saesneg yn dod yn iaith fwyfwy poblogaidd, mae’r meddylfryd fod ‘pawb yn gallu siarad Saesneg’ yn dominyddu braidd. Mae nifer fawr o’r farn, os ydyn nhw’n medru siarad Saesneg, y byddan nhw’n iawn felly. Ond y gwir yw, dydy 70% o boblogaeth y byd ddim yn siarad Saesneg! Felly, mae dysgu iaith dramor yn bwysicach nag erioed, er mwyn i ni barhau i allu cyfrannu ar blatfform rhyngwladol Ewrop fel gwlad sydd â’i iaith ei hun, wrth gwrs. Gyda’r galw am fwy o siaradwyr ieithoedd tramor yn cynyddu ers Brexit, pam nad oes mwy yn eu hastudio?
Aros yng Nghymru
Mae yna feddylfryd hefyd nad oes angen iaith dramor os nad ydych chi am adael y wlad hon. Ond y gwir yw fod cymaint o fusnesau a chyflogwyr sy’n awchu am staff sy’n medru ieithoedd. Mae medru iaith arall yn gwneud unrhyw gais am swydd gymaint yn fwy deniadol i rywun sy’n cyflogi.
Afraid dweud bod cymaint o fuddion i’r ymennydd wrth ddysgu iaith newydd hefyd. Mae’r manteision yn ddirifedi.
Ar ei hôl hi
Rydyn ni ar ei hôl hi yma yn y wlad hon. Mae gwledydd y cyfandir – megis yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a’r Eidal – yn siarad dwy, tair, pedair iaith heb feddwl am y peth. Felly, pam nad ydyn ni’n gallu gwneud hynny hefyd? Gadewch i ni fod yr un mor gystadleuol yn rhyngwladol a dangos bod Cymru yr un mor werthfawr i gymuned rhyngwladol Ewrop ag unrhyw wlad arall.
Ieithoedd yw un o’r pethau mwyaf gwerthfawr y gallwch chi ei gael, ac mae’n fwy na iaith. Mae’n arf. Rydych chi’n dod yn rhan o ddiwylliant newydd, yn dod i adnabod pobol newydd ac yn ehangu’ch gorwelion cymaint yn fwy. Nid yw iaith costio dim, ond mae’r rhai y byddwch chi’n siarad â nhw yn yr iaith honno’n gwerthfawrogi’r ymdrech yn fawr – a dyna lle y gwelwch chi harddwch iaith ar ei gorau.
Mae yna gymaint o fuddion wrth ddysgu iaith dramor, ac i siaradwyr Cymraeg, mae dysgu iaith arall gymaint yn haws, am ein bod ni’n medru o leiaf ddwy iaith yn barod. Mae hi fil gwaith yn haws dysgu iaith arall, os ydych chi’n ddwyieithog, yn ôl pob sôn. Mae ieithoedd yn cynyddu’ch siawns am swyddi, yn cynnig tâl mwy gan amlaf, ac yn eich galluogi i deithio’r byd!
Felly, cymerwch funud i feddwl, cyn bodloni at droi at y Saesneg pan fyddwch chi ar wyliau dramor, beth am fynd ati, a chrafu’r gwe pry cop oddi-ar eich ieithoedd y dysgoch yn yr ysgol, neu beth am ddysgu iaith gwbl newydd? Pam lai, dysgwch un gair bob dydd!Mae ieithoedd tramor wedi dod yn fwy pwysig nag erioed i ni fel Cymry, os ydyn ni am barhau i sefyll ar lwyfan rhyngwladol, ac mae’n rhaid i ni fel gwlad sylweddoli hynny ar fyrder, os ydyn ni am achub ein statws yn economaidd ac yn gymdeithasol.
Felly da chi, mynnwch eiriadur, neu ap ar eich ffôn. Bydd iaith arall yn eich galluogi i weld y byd hwn drwy sbectol newydd, glân.