Mae’r gwaith o drosglwyddo rheolaeth o drên cymudwyr i ddwylo Llywodraeth Catalwnia wedi dechrau.
Roedd trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros drên cymudwyr Rodalies yn rhan o gytundeb rhwng y Sosialwyr ac Esquerra Republicana ym mis Tachwedd 2023, wrth i’r Sosialwyr geisio cefnogaeth i sicrhau bod Pedro Sánchez yn cael ei ailethol yn Brif Weinidog Sbaen.
Ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 14), cafodd cais ei gyflwyno gan Lywodraeth Catalwnia yn gofyn i Lywodraeth Sbaen dynnu rhan o rwydwaith R1 allan o’r prif rwydwaith a’i drosglwyddo i ofal awdurdodau lleol.
Bydd y gwaith yn dechrau gyda throsglwyddiad R1 rhwng La Sagrera yn Barcelona a Maçanet-Massanes, i’r de o Girona eleni.
Ond cyn bod modd i’r gweithredwr rheilffyrdd Ifercat allu rheoli’r llinell i gymudwyr, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol a’r gweithredwr Sbaenaidd Adif reoli’r leiniau ar y cyd.
Dywed Llywodraeth Sbaen fod angen mwy o staff a chyllid er mwyn cryfhau Ifercat.
Yn ôl y cytundeb rhwng y Sosialwyr ac Esquerra, mae disgwyl i’r broses o drosglwyddo R2 ac R3 ddechrau’n fuan ar ôl trosglwyddo R1.
Ond gallai’r broses honno fod yn fwy cymhleth.
Yn wahanol i R2 ac R3, dydy R1 ddim yn rhannu cledrau gyda leiniau rhanbarthol, pellter hir na leiniau cludo nwyddau, ac felly mae hynny’n gwneud y broses o drosglwyddo R1 yn haws na’r gweddill.
Gwasanaethau
Mae 73km o gledrau rhwng Maçanet-Massanes a Bifurcació Sagrera, a hynny ar draws 21 o awdurdodau trefol rhwng Girona a Barcelona.
Mae 22 o orsafoedd, 12 o groesfannau, wyth twnel, 514 o goridorau tanddaearol, 36 lifft a saith set o risiau symudol ar y lein.
Yn ôl Oriol Junqueras, arweinydd Esquerra, mae’r cam cyntaf yn “rhan o’r datrysiad” ond “mae angen mwy”.
Mae cefnogaeth Esquerra yn allweddol i ymdrechion Pedro Sánchez i ddod yn arlywydd Sbaen, gan fod ganddo fe lywodraeth leiafrifol yn y Gyngres.
Mae angen cefnogaeth Esquerra ar y Sosialwyr hefyd er mwyn pasio’r gyllideb a deddfwriaeth arall.
Mae plaid asgell chwith CUP, sydd hefyd o blaid annibyniaeth, hefyd wedi beirniadu’r ffaith fod y cam cyntaf yn “rhan” yn unig o’r darlun cyfan.
“Mae’n anodd deall nad yw holl rwydwaith trên cymudwyr Rodalies wedi digwydd yn gyfan gwbl,” meddai Maria Pilar Castillejo, sy’n aelod seneddol CUP.
Mae’r blaid asgell dde Vox yn gwrthwynebu trosglwyddo rhannau o’r rhwydwaith, wrth iddyn nhw rybuddio rhag “ildio i Lywodraeth Catalwnia, sydd ddim yn gwybod sut i reoli”.