Mae un o gyflwynwyr y rhaglen deledu Ffermio wedi “agor gât y clos” a gwahodd darllenwyr i’w bywyd mewn hunangofiant newydd.

Yn Ffermio ar y Dibyn mae Meinir Howells yn rhannu popeth o straeon am ei magwraeth ar y fferm deuluol ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin i’w hanesion fel mam, ffermwr a chyflwynydd nawr.

Mae Meinir yn ffermio yn Shadog ym Mhentrecwrt ger Llandysul yng Ngheredigion gyda’i gŵr, Gary, a’u plant, Sioned, sy’n wyth, a Dafydd, sy’n chwech.