Wel, dyna flwyddyn arall wedi gwibio heibio a ninnau unwaith eto ar drothwy’r Nadolig! Gobeithio eich bod wedi cael 2024 llawn bendithion a llawenydd.

Bu’n flwyddyn digon pethma i’r teulu Davies unwaith eto, yn dilyn patrymau’r blynyddoedd blaenorol. Daeth mis Ionawr â phen-blwydd arbennig – Priodas Arian Gwilym a Delyth! Dathlodd y ddau gyda phryd bwyd arbennig ym Mhlas Eithin, ble bu’r ddau yn eistedd mewn tawelwch am y rhan fwyaf o’r pryd. Mi redon nhw allan o bethau i ddweud wrth ei gilydd oddeutu 2004. Ar ôl mynd adref, syrthiodd Gwilym i gysgu ar ôl llyncu hanner botel o Gaviscon, a gorweddodd Delyth yn ei hymyl, ei dillad isaf crand yn wastraff llwyr, yn gŵglo Women’s Communes Wales.

Bydd 2025 yn flwyddyn fawr i Deio ni – blwyddyn y Lefel A! Mae’n brysur yn astudio ac yn paratoi ar yr arholiadau, er y byddai’n well ganddo fod wedi mynd i’r coleg i wneud cwrs Celf. Mae’n rhygnu drwy’r gwaith yn y pynciau y dewisodd ei rieni iddo, ond gyda’r nos, mae’n ymestyn am ei golur a’i frwshys ac yn paentio ei wyneb yn gelfydd, ac yn breuddwydio am fod yn golurydd proffesiynol. Yn 17 oed, mae’n digalonni wrth ragweld y bywyd sydd o’i flaen, y bywyd llwyd, di-liw, a ddewiswyd iddo gan ei rieni.

Mae Leisa’n dal yn Lerpwl. Wel, ’da ni’n meddwl ei bod hi. Tydy hi ddim yn cysylltu, dim ers iddi raddio’r llynedd. Rydan ni fel teulu’n dal i smalio fod popeth yn iawn, wrth gwrs, a ’da ni byth yn trafod ein ffrae olaf gyda hi, pan weiddodd hi dros y bwrdd bwyd ei bod hi’n mynd i fod mewn therapi am weddill ei bywyd “am eich bod chi’n rieni mor uffernol o hunanol, a bod Mam yn obsesd efo faint dw i’n bwyso.” Mae Deio’n hiraethu am ei chwaer nes fod y teimlad yn boen yn ei fol.

Mae Gwilym yn dal i chwarae golff bob wythnos, ac mae’n brysur yn ei waith fel cynghorydd tref a gyda’i ddiddordeb brwd yng nghyfri OnlyFans y ferch sy’n gweithio yn y gampfa. Mae Delyth, ar y llaw arall, yn mwynhau coginio, darllen, a chyfrannu i grŵpiau blin ar facebook er mwyn iddi gael teimlo ei bod hi ychydig yn well na phobol eraill.

Dyna’n newyddion ni! Dyma ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Hyfryd i chi, gyfeillion, a gobeithio y bydd cyfle i’ch gweld chi yn 2025.