Dwi’n trio bod mor dawel a fedra i. Mae’n bwysig nad wyt ti’n fy nghlywed i, ac yn bwysicach byth nad wyt ti yn fy ngweld i. Dwi’n aros tan yr oriau duon, felly, i dorri i mewn i dy dŷ. Mae popeth yn llonydd. Popeth yn dawel. Rwyt ti wedi ymlâdd.