Roedd hi’n dywydd aros yn y tŷ a swatio ar y soffa dros y penwythnos yn doedd? Deuddydd o wylio gohebwyr newyddion yn sefyll tu allan mewn storm, yn dweud wrth bawb arall i beidio mynd allan i’r storm!
Ta waeth, mi gefais i gyfle i fynd allan ar y nos Iau, cyn i Darragh daro’n iawn, a hynny i lansiad llyfr. Ia… Dw i’n gwybod… Diwylliedig iawn. Ond peidiwch â phoeni, dw i heb droi’n golofnydd llyfrau dros nos. Achos rhaglen radio wedi ei throi’n llyfr yw Chwalu Pen.