Mae Two-tier Keir newydd gyhoeddi ei ‘gynllun ar gyfer newid’, pum mis ers iddo ennill yr etholiad cyffredinol.

Ychydig o embaras iddo, a dweud y gwir. Onid ei faniffesto oedd ei ‘gynllun’? Pam fod angen cynllun arall, mor fuan? Efallai bod y Ceidwadwyr yn agos ati wrth gyfeirio at y broses fel ‘emergency relaunch‘, yn dilyn blerwch llwyr llywodreth Two-tier ers yr etholiad.