Iesgob! Dyma flwyddyn arall yn prysur ddirwyn i ben!

Dyma obeithio, felly, y bydd pob un o ddarllenwyr brwd Golwg yn mwynhau’r Nadolig. Fe ddaeth yr amser, unwaith eto, i ni dreulio oriau ac oriau diddiwedd yng nghwmni’r teulu. Ac i ddiolch yn fawr iddynt am ein sanau Nadoligaidd ‘doniol’, cyn eu lluchio i’r bin (y sanau, nid y teulu).

Rhaid diolch i Dduw, felly, am ei rodd hael i’r byd, sef y winwydden. Canys drwy yfed digonedd o win coch gellir ymdopi’n well â’n teuluoedd annwyl.