Mae’r system etholiadol newydd yng Nghymru, fydd yn cael ei chyflwyno yn 2026, yn golygu bod rhagweld cyfansoddiad y Senedd nesaf yn sylweddol anoddach nag o’r blaen.
Mae’r cynigion ar gyfer yr etholaethau newydd, gafodd eu hailgyflwyno gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 17), yn cadarnhau mai 16 etholaeth fydd dros Gymru gyfan, ac y bydd pob un etholaeth yn ethol chwech o aelodau.
Yma, mae golwg360 yn ceisio darogan beth fyddai canlyniad etholiad dan y system newydd, pe bai Cymru’n cael pleidleisio heddiw, er mwyn cyflwyno ein bras amcangyfrif o’r dirwedd wleidyddol bresennol.
Dull
Rydyn ni wedi cymhwyso canlyniadau’r pôl syfrdanol gafodd ei ryddhau bythefnos yn ôl i fodel cyfrifiadurol sy’n medru rhagdybio’r newid ym mhob un o etholaethau San Steffan ers yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf ar sail y ffigyrau newydd hyn.
Dyma oedd canlyniadau’r pôl gafodd ei gyhoeddi gan YouGov ar Ragfyr 1:
Plaid Cymru: 24%
Llafur: 23%
Reform UK: 23%
Y Ceidwadwyr: 19%
Y Democratiaid Rhyddfrydol: 5%
Y Blaid Werdd: 6%
Gan fod etholaethau newydd y Senedd yn cyfuno dwy etholaeth yn San Steffan gyda’i gilydd, mae modd cyfrifo’r canlyniadau hyn fesul yr 16 etholaeth newydd hefyd.
Yna, drwy ddefnyddio dull arbennig D’Hondt, mae’n bosib darganfod amcangyfrif o ddosraniad seddi ym mhob un o’r etholaethau.
Mae dull D’Hondt, sydd eisoes wedi cael ei ddefnyddio er mwyn dosbarthu seddi’r rhanbarthau yn etholiadau blaenorol y Senedd, yn gwobrwyo seddi yn ôl cyfran y bleidlais mae pob plaid yn eu derbyn.
Canlyniadau
A thybio bod y cyfrifon hyn yn gywir, felly, dyma sut fyddai canlyniadau’r pôl piniwn yn cael eu dosrannu’n seddi yn yr etholaethau newydd:
Bangor Aberconwy Môn: Llafur 1, Ceidwadwyr 2, Plaid Cymru 2, Reform UK 1
Clwyd: Llafur 2, Ceidwadwyr 2, Plaid Cymru 1, Reform UK 1
Fflint Wrecsam: Llafur 2, Ceidwadwyr 1, Plaid Cymru 1, Reform UK 2
Gwynedd Maldwyn: Ceidwadwyr 1, Plaid Cymru 3, Reform UK 2
Ceredigion Penfro: Llafur 1, Ceidwadwyr 2, Plaid Cymru 2, Reform UK 1
Sir Gâr: Llafur 1, Ceidwadwyr 1, Plaid Cymru 2, Reform UK 2
Gorllewin Abertawe Gŵyr: Llafur 2, Ceidwadwyr 1, Plaid Cymru 1, Reform UK 2
De Powys Tawe Nedd: Llafur 1, Ceidwadwyr 1, Plaid Cymru 1, Reform UK 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol 1
Afan Ogwr Rhondda: Llafur 2, Plaid Cymru 2, Reform UK 2
Merthyr Cynon Taf: Llafur 2, Plaid Cymru 2, Reform UK 2
Blaenau Gwent Caerffili Rhymni: Llafur 2, Ceidwadwyr 1, Plaid Cymru 2, Reform UK 1
Mynwy Torfaen: Llafur 2, Ceidwadwyr 2, Plaid Cymru 1, Reform UK 1
Casnewydd ac Islwyn: Llafur 2, Ceidwadwyr 1, Plaid Cymru 1, Reform UK 2
De-ddwyrain Caerdydd Penarth: Llafur 2, Ceidwadwyr 1, Plaid Cymru 1, Reform UK 1, Y Blaid Werdd 1
Gorllewin a Gogledd Caerdydd: Llafur 2, Ceidwadwyr 1, Plaid Cymru 2, Reform UK 1
Pen-y-Bont Bro Morgannwg: Llafur 2, Ceidwadwyr 2, Plaid Cymru 1, Reform UK 1
Dyma, felly, ydy ein bras amcangyfrif o gyfansoddiad Senedd Cymru:
Llafur 26, Plaid Cymru 25, Reform UK 24, y Ceidwadwyr Cymreig 19, y Democratiaid Rhyddfrydol 1, y Blaid Werdd 1
Rhaid cofio mai ffigyrau bras ydy’r rhain, ac felly nad ydyn nhw’n ystyried ffactorau arbennig lleol neu’r gwahaniaeth posib mewn patrymau pleidleisio wedi cyflwyno’r system bleidleisio newydd.
Cynrychiolaeth decach
Dyma fyddai cyfran pob plaid o seddi’r Senedd:
Llafur = 27.1%
Ceidwadwyr = 19.8%
Plaid Cymru = 26%
Reform UK = 25%
Y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd = 1.1% yr un
Er bod y Blaid Lafur yn fwy llwyddiannus o ran seddi nag y mae’r pôl piniwn yn awgrymu y dylen nhw fod, mae hyn yn adlewyrchu barn y genedl (yn ôl y pôl) yn sylweddol well na’r system flaenorol.
Fe lwyddodd y Blaid Lafur i gipio hanner seddi’r Senedd ddiwethaf gyda llai na 40% o’r pleidleisiau gafodd eu taro.
Mae’r canlyniadau, felly, yn awgrymu y bydd y dull etholiadol newydd yn cyflawni un o’i amcanion, sef cynrychiolaeth decach.
Gwahaniaeth ers y cynigion diwethaf
Gan mai dim ond y ddwy sedd yng Nghaerdydd oedd wedi newid yn sgil cyhoeddiad y Comisiwn Democratiaeth, dim ond gwahaniaeth bach sydd gan y canlyniadau hyn o’u cymharu â’r canlyniadau dan y system gyntaf gafodd ei chynnig ym mis Medi.
Dan y cynigion gwreiddiol, mi fyddai yna ddwy sedd i’r Blaid Lafur, dwy sedd i Blaid Cymru, un sedd i’r Ceidwadwyr, ac un sedd i Reform UK yn yr etholaeth fyddai’n cyfuno Gorllewin Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth.
Mi fyddai dwy sedd i’r Blaid Lafur, dwy sedd i Reform UK, un sedd i Blaid Cymru, ac un sedd i’r Ceidwadwyr yn etholaeth arfaethedig Gogledd a Dwyrain Caerdydd.
Mi fyddai’r system hon wedi caniatáu un sedd yn rhagor i Reform UK, ac yn golygu na fyddai’r un sedd gan y Blaid Werdd.
Fodd bynnag, yr un canlyniad cyffredinol fyddai gan y ddwy system, dan ein hamcangyfrifon ni, sef mai’r Blaid Lafur fyddai’r blaid fwyaf o ran seddi o hyd, er bod llai o bobol yn eu cefnogi dros Gymru gyfan nag sy’n cefnogi Plaid Cymru.