Mae dyn 18 oed sy’n enedigol o Gaerdydd wedi gwadu llofruddio tair merch fach yn Southport.

Fe wnaeth Axel Rudakubana wrthod siarad yn ystod gwrandawiad i wynebu cyhuddiadau o lofruddio Elsie Dot Stancombe, Alice da Silva Aguiar a Bebe King yn eu gwers ddawns.

Aeth y diffynnydd gerbron Llys y Goron Lerpwl trwy gyswllt fideo o’r ddalfa, ond fe wrthododd siarad er mwyn cadarnhau ei enw ac i gyflwyno’i ble, gafodd ei gyflwyno ar ei ran gan y barnwr.

Plediodd yn ddieuog yn yr un modd i geisio llofruddio deg o bobol eraill, gan gynnwys wyth o blant, ar Orffennaf 29.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau o gynhyrchu gwenwyn ricin ac o fod â deunyddiau brawychol yn ei feddiant.

Plediodd y barnwr yn ddieuog ar ei ran i’r cyhuddiadau hynny hefyd, ac felly mae’n wynebu 16 o gyhuddiadau i gyd.

Bydd yr achos llys yn dechrau ar Ionawr 20, ac mae disgwyl iddo bara pedair wythnos.