Mae canlyniadau pôl piniwn sydd newydd ei gyhoeddi yn rhoi gobaith i Blaid Cymru fod “dechrau newydd” yn bosib i Gymru, yn ôl Rhun ap Iorwerth.

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb i bôl piniwn Barn Cymru gan YouGov i ITV Cymru, sy’n rhoi Plaid Cymru un sedd ar y blaen i Reform, ond un sedd yn brin o fwyafrif.

O 2026, bydd nifer yr aelodau yn y Senedd yn cynyddu i 96, sy’n golygu bod angen 49 o seddi er mwyn ennill mwyafrif.

Mae’r pôl diweddaraf yn awgrymu, pe bai pobol yn pleidleisio nawr, byddai’r Blaid yn ennill 28 sedd.

Mae Reform UK un sedd y tu ôl iddyn nhw ar 27.

Mae Llafur yn drydydd ar 23 sedd, a’r Ceidwadwyr yn bedwerydd gyda 17.

Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill un sedd, yn ôl y pôl.

‘Trobwynt hanesyddol’

Yn ôl Plaid Cymru, mae’r pôl yn “drobwynt hanesyddol i Gymru”.

Dywed y Blaid y gallan nhw “arwain y ffordd gydag agenda lywodraethu ffres a phositif a wnaed yng Nghymru”.

Dywed Rhun ap Iorwerth fod “dechrau newydd i Gymru yn bosibl efo Plaid Cymru”.

“Mi ddown â newid positif, ac mi fyddwn bob amser yn mynnu tegwch i Gymru a’ch cymuned,” meddai ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Felly, ydach chi efo ni?

“Mi allwn wneud iddo ddigwydd efo’n gilydd.”