Mae dros 300 o achosion o ddifrod i arwyddion Gwyddeleg uniaith a dwyieithog wedi costio bron i £60,000 i awdurdodau lleol dros gyfnod o bum mlynedd, yn ôl y BBC Gogledd Iwerddon.
Cafodd rhai arwyddion eu paentio, a chafodd eraill eu dwyn, eu llosgi neu eu tynnu i lawr, gyda bron i ddau draean o’r 209 o achosion yn ardal Canol Ulster, a hynny ar gost o fwy na £21,000 i’w trwsio a’u hadnewyddu.
Roedd 74 o achosion yn ardaloedd Fermanagh ac Omagh, tra bod 23 yn ardal Belfast.
Roedd 15 yn ardaloedd Newry, Mourne a Down, a phedwar yn Derry a Strabane.
Yn ôl y mudiad Conradh na Gaeilge, sy’n hyrwyddo’r Wyddeleg, does “dim cyfiawnhad dros droseddau casineb gwrth-Wyddeleg”, a bod arwyddion dwyieithog yn arwydd o “gynhwysiant” ac yn rhan o dreftadaeth llefydd.
Dywed Patsy McGlone, aelod o’r SDLP sy’n medru’r Wyddeleg, fod yr achosion yn “warthus”.
Er bod TUV (Traditional Unionist Voice) wedi beirniadu’r fandaliaeth, maen nhw’n poeni bod yr iaith “yn cael ei gorfodi ar gymunedau nad ydyn nhw’n ystyried bod ganddyn nhw hunaniaeth Wyddeleg”.
Maen nhw’n cyhuddo’r awdurdodau o ddefnyddio’r iaith fel “arf”, ond mae Conradh na Gaeilge yn dweud bod dyletswydd arnyn nhw i “weithredu’n benderfynol er mwyn hybu’r Wyddeleg”.