Mae enwau’r rhai sydd wedi ennill y grantiau diweddaraf gan elusen Ymddiriedolaeth Cofio Robin Llŷr Evans wedi cael eu cyhoeddi.
Eleni, mae’r gronfa wedi dosbarthu hyd at £21,000 ymhlith 37 o geisiadau llwyddiannus, gan gynnwys £1,600 i Mared Griffiths o Drawsfynydd a £1,500 i Ffion Mair o Forfa Bychan.
Mae £1,300 wedi’i roi i Huw Buck Jones, Toby Sutcliffe a Jamie Jenkins, ac mae William Decker wedi derbyn £1,100.
Mae Efa Dwyfor-Clark a Tom Healy wedi derbyn £1,000 o’r gronfa eleni, ac Ela Letton-Jones a Beca Fôn Parry wedi derbyn £900.
Mae’r rhestr lawn ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Cofio Robin Llŷr Evans.
Colli Robin
Bu farw Robin Llŷr Evans mewn damwain wrth weithio i gwmni HawkEye mewn stadiwm yn Wuhan yn Tsieina pan oedd yn ugain oed.
Yn dilyn eu profedigaeth, ac fel adlewyrchiad o’i gariad tuag at y byd chwaraeon, lansiodd Gareth a Menai Evans yr elusen Ymddiriedolaeth Cofio Robin Llŷr Evans yn 2018.
Ac yntau’n aelod o Glwb Pêl-droed Bro Enlli a thîm hoci Ysgol Llanbedrog, dangosodd gryn ddiddordeb mewn chwaraeon o oedran cynnar iawn.
Aeth yn ei flaen i dorri mwy nag un record am redeg yn Ysgol Botwnnog, cyn mynd yn ei flaen i astudio peirianneg mecanyddol ym Mhrifysgol Loughborough ar ôl i gyfleusterau chwaraeon y campws ddenu ei sylw.
“Roedd Robin ar flwyddyn profiad o’r brifysgol [pan fu farw], yn dilyn ei frawd Guto oedd wedi bod yn gweithio yn yr un cwmni ac wedi cael cyfleoedd gwerth chweil o drafeilio’r byd efo HawkEye,” meddai Gareth Evans wrth golwg360.
“Mi ddechreuodd Robin drafeilio ym mis Gorffennaf 2015, ac fe fuodd o draw yng Ngogledd America a rhannau eraill o’r byd, ac mi oedd ei swydd nesaf o wedyn yn Tsieina.
“Mi fuon ni’n siarad efo fo yn y bore yn Tsieina, iddo fo, a gyda’r nos i ni yn fan hyn, a dyna’r sgwrs olaf mewn ffordd.
“Wrth iddyn nhw osod peiriannau i ddilyn y bêl tenis [yn y stadiwm], mi wnaeth Robin gerdded mewn lle ar dop y stadiwm, gan gymryd yn ganiataol fod y lle yn iawn, ac yn naturiol doedd o ddim.
“Ac fe ddisgynnodd ar yr amser hynny.”
Cerdded yn cynnig cysur
Wrth wynebu cyfnod anodd ar ôl colli eu mab, doedd Gareth a Menai Evans “ddim yn siŵr iawn o ran beth i’w wneud”.
Ddwy flynedd cyn colli eu mab, roedd y pâr wedi dechrau cerdded rhannau o Lwybr Arfordir Cymru.
Gan iddyn nhw fwynhau hynny gymaint, penderfynon nhw barhau i gerdded y llwybr, gan godi arian at sefydliadau chwaraeon.
“Doedd yr Ymddiriedolaeth ddim yn ein meddyliau ni adeg hynny a dweud y gwir,” meddai’r tad.
“Fe wnaethon ni godi dros £20,000 wrth gerdded yr arfordir, ac fe roddwyd yr arian hynny i dair elusen leol yng Ngogledd Cymru.
“Fe ddaru hynny greu diddordeb mewn codi arian, a’r flwyddyn wedyn [2017], mi roedd ffrind i ni wedi cael diagnosis Parkinson’s, ac fe wnaethon ni benderfynu cerdded Clawdd Offa fel ein bod ni wedi cerdded reit o amgylch Cymru a chodi arian at Parkinson’s ar yr un pryd.
“Roedd Menai a fi wedi mwynhau’r cerdded yn ofnadwy, ac roedd wedi ein helpu ni yn y modd mwyaf ofnadwy i ddod dros y golled, ac mi benderfynon ni wedyn i godi arian i gofio Robin.
“Roedd Robin yn llawn bywyd, ac ym myd y chwaraeon bob dydd.
“Wedi i mi ddarllen rhywbeth mewn ryw bapur am rywun yn codi arian at bobol ifanc ym myd chwaraeon, fe benderfynon ni gychwyn ar yr elusen cyn gynted â phosib.”
Grantiau i ddatblygu sgiliau chwaraeon
Wrth gydweithio â chwmni HawkEye, cafodd Ymddiriedolaeth Cofio Robin Llŷr Evans ei sefydlu yn 2018.
Mae’r gronfa’n cynnig grantiau i unigolion dan 25 oed sydd wedi byw yng Ngwynedd a/neu yng Nghonwy ers dros dair blynedd.
Mae gofyn i’r unigolion fod wedi cyrraedd “lefel eithriadol o uchel yn eu maes chwaraeon ac anelu yn uwch” wrth ystyried gwneud cais am y grant, all fod o ddefnydd mawr fel cyfraniad at gostau teithio neu hyfforddiant pellach.
Mae’r gronfa’n cynnig grantiau sy’n amrywio o £100 i £2,000.
Yn 2023, cafodd swm o £1,300 ei ddyfarnu i Medi Harris, y nofwraig o Borthmadog fu’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd eleni.
“Chwaraeon oedd pethau Robin, mi oedd o i mewn ac allan o’r tŷ yma fel io-io, yn mynd i rywle i chwarae pêl-droed, rygbi, hoci neu beth bynnag oedd hi.
“Dyna oedd ei fyd o, ac roedd lot o’i ffrindiau, yn naturiol, yn y byd yna hefyd.
“Mi oeddan ni’n meddwl sefydlu rhywbeth yng Ngwynedd a Chonwy ym myd y chwaraeon sydd ychydig bach yn wahanol i’r hyn sydd ar gael i bobol yn gyffredinol.
“Mi wnaethon ni benderfynu creu cronfa i ddechrau’r elusen, ac o fan yno ymlaen wedyn mi fuon ni’n lwcus iawn o ffeindio ymddiriedolwyr bendigedig y tu allan i’r teulu.
“Mae yna dri ohonon ni o fewn y teulu – Menai y wraig, Guto’r mab, a finnau.
“Ac erbyn heddiw, mae gennym ni bedwar y tu allan i’r teulu ac maen nhw’n dod â llawer iawn o wybodaeth a phrofiad i mewn i’r ymddiriedolaeth i’n helpu ni i symud ymlaen.
“Mae yna dros gant o bobol ym myd chwaraeon wedi derbyn arian gennym ni, ac uwchben hynny mae rhai ohonyn nhw wedi datblygu ac wedi cael mwy o arian gennym ni i’w helpu nhw, mewn ffordd.
“Bob blwyddyn, mae’r ceisiadau i mewn erbyn diwedd Medi ac mi fyddwn ni fel saith o ymddiriedolwyr yn edrych ar bob un.
“Mi oedd gennym ni 56 o geisiadau eleni, ac mi gymerodd dros ddiwrnod da i ni fynd drwyddyn nhw i gyd!”