Mae Graham Potter, cyn-reolwr Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi’i benodi’n rheolwr ar West Ham.
Mae’r Sais, oedd wrth y llyw yn yr Elyrch yn 2018-19, wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd a hanner i olynu Julen Lopetegui, gafodd ei ddiswyddo ddoe (dydd Mercher, Ionawr 8).
Dyma swydd reoli gyntaf Potter ers i Chelsea ei ddiswyddo ym mis Ebrill 2023.
Mae e hefyd wedi treulio cyfnodau gydag Östersund yn Sweden a Brighton & Hove Albion.
Dywed ei fod e wedi bod yn aros i’r swydd fwyaf addas ddod cyn ymrwymo i glwb arall.
“Mae fy sgyrsiau gyda’r cadeirydd a’r bwrdd wedi bod yn bositif ac adeiladol iawn,” meddai.
“Rydyn ni’n rhannu’r un gwerthoedd o ran gweithio’n galed ac egni mawr i greu’r seiliau cadarn all gynhyrchu llwyddiant, ac rydyn ni ar yr un trywydd o ran yr hyn sydd ei angen yn y tymor byr ac wedyn o ran sut rydyn ni am symud y clwb yn ei flaen yn y tymor canolig a’r tymor hir.”
Yn ymuno â Graham Potter fydd ei gynorthwyydd Billy Reid, oedd yn rhan o’i dîm hyfforddi yn Abertawe, yn ogystal â Bruno a Narcís Pèlach, tra bydd Xavi Valero yn aros gyda’r clwb.