Mae Graham Potter, cyn-reolwr Abertawe, gam yn nes at gael ei benodi’n rheolwr nesaf Clwb Pêl-droed West Ham.
Daw hyn ar ôl i’r clwb gyhoeddi ymadawiad Julen Lopetegui heddiw (dydd Mercher, Ionawr 8), ar ôl iddyn nhw ganslo cynhadledd y wasg eu rheolwr yn gynharach.
Fe fu nifer yn feirniadol o’r ffordd mae’r clwb, sy’n rhannol dan berchnogaeth y Cymro David Sullivan, wedi ymdrin â’r sefyllfa, gydag adroddiadau ers dechrau’r wythnos yn awgrymu bod trafodaethau â Graham Potter wedi hen ddechrau ymhell cyn iddyn nhw drafod y mater â Julen Lopetegui.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Lopetegui wedi bod yn arwain sesiynau ymarfer y tîm.
Mewn datganiad, dywed y clwb nad oedd y tîm wedi cyrraedd y safonau disgwyliedig yn ystod hanner cynta’r tymor, a bod y penderfyniad i benodi rheolwr newydd wedi’i wneud yn unol â’u hamcanion.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau ymadawiadau’r hyfforddwyr cynorthwyol, gan ddiolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith.