Mae’r asgellwr Regan Grace wedi symud i Rygbi Caerdydd o Gaerfaddon am weddill y tymor hwn.
Yn 28 oed, bydd y cyn-chwaraewr rygbi’r gynghrair yn lleddfu’r pwysau ar y rhanbarth o ganlyniad i nifer o anafiadau.
Mae’n bosib y gallai cytundeb Grace, gafodd ei eni ym Mhort Talbot, gael ei ymestyn y tu hwnt i’r tymor hwn, ac mae’n cael ei ystyried yn gam nesa’i yrfa, ar ôl iddo fe gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y daith i Awstralia y llynedd.
Daeth ei gêm gyntaf dros ei wlad yn erbyn y Queensland Reds, ac fe sgoriodd e gais â’i gyffyrddiad cyntaf yn y crys coch.
Fe gododd e drwy rengoedd y Gweilch cyn troi at rygbi’r gynghrair yn 17 oed, gan gymryd rhan mewn tair gêm derfynol yn y Super League ac ennill y Challenge Cup cyn dychwelyd i rygbi pymtheg dyn yn 2022.
Ond ar ôl ymuno â Racing 92 yn Ffrainc, fe gafodd e anaf, ac fe ymunodd â Chaerfaddon y llynedd.
Anafiadau
Mae gan Rygbi Caerdydd nifer o anafiadau yn safle’r asgellwr ar hyn o bryd.
Ar ôl denu Louie Hennessey ar fenthyg o Gaerfaddon, does dim hawl ganddo fe i chwarae’r ddwy gêm Ewropeaidd nesaf i’r rhanbarth.
Mae gan Mason Grady, Harri Millard a Theo Cabango anafiadau ar hyn o bryd, tra bod Iwan Stephens allan am weddill y tymor hefyd.