Mae’r Cymro Gerwyn Price wedi’i enwi yn Uwch Gynghrair Dartiau 2025.
Roedd amheuon na fyddai’n cael ei enwi ymhlith yr wyth, ar ôl blwyddyn ddigon siomedig i’r gŵr o sir Caerffili.
Ond does dim lle i’r Cymro arall, Jonny Clayton.
Y saith arall yn y twrnament yw’r Saeson Luke Littler, Luke Humphries, Rob Cross, Stephen Bunting, Chris Dobey a Nathan Aspinall, a’r Iseldirwr Michael van Gerwen.
Bydd y gystadleuaeth yn dod i Gaerdydd ar Fawrth 20.
Strwythur yr Uwch Gynghrair
Bydd wyth chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair – y pedwar uchaf ar y rhestr detholion a phedwar dewis arall.
Bydd y chwaraewyr yn herio’i gilydd unwaith yn ystod y saith wythnos agoriadol, ac unwaith eto rhwng wythnosau 9 a 15.
Bydd trefn y gemau rhwng wythnosau 8 ac 16 yn seiliedig ar le maen nhw yn y gynghrair.
Bydd pwyntiau ar gael bob noson fydd yn cyfrannu at y gynghrair.
Pe bai’r ffigurau’n debyg eto eleni, gallai’r pencampwr ar ddiwedd y twrnament ennill oddeutu £275,000 gyda gwobr o £10,000 i’r un sy’n dod i’r brig bob wythnos.
Er bod chwaraewyr uwchlaw Gerwyn Price, Chris Dobey a Nathan Aspinall ar y rhestr detholion nad ydyn nhw wedi cael eu dewis, mae trefnwyr y gystadleuaeth wedi awgrymu bod y tri wedi cael eu ffafrio o ganlyniad i’w gallu i berfformio ar lwyfan mawr, eu poblogrwydd a’r ffaith eu bod nhw’n gallu creu awyrgylch ymhlith y dorf.