Roedd ambell air o Gymraeg i’w glywed ar lwyfan yr Alexandra Palace yn Llundain heddiw, yn dilyn buddugoliaeth Cymro ym Mhencampwriaeth Dartiau’r Byd.
Mae Robert Owen o Fro Ogwr wedi cyrraedd trydedd rownd y gystadleuaeth, ar ôl curo Gabriel Clemens o’r Almaen o dair set i un.
Enillodd Robert Owen y ddwy set gyntaf yn hawdd, cyn i Clemens, sy’n rhif 27 yn y byd, ddod yn ôl yn y drydedd set.
Ond ar ôl colli’r gêm gyntaf yn y bedwaredd set, enillodd e dair gêm yn olynol i guro Clemens mewn gornest nad oedd yn disgwyl ei hennill.
Yn sgil y canlyniad, mi fydd Robert Owen yn cael parhau’n chwaraewr proffesiynol y flwyddyn nesaf hefyd.
https://x.com/OfficialPDC/status/1869783411100946439
‘Nadolig Llawen’
Yn dilyn ei fuddugoliaeth, cafodd ei gyfweld gan Polly James, gohebydd Sky Sports sy’n hanu o Gaerdydd.
Ar ddechrau’r sgwrs, dywedodd Polly James ei bod hi’n sefyll efo “Cymro hapus iawn”.
“Dw i newydd ennill fy ngherdyn proffesiynol, c’mon!” meddai’r chwaraewr.
Ychwanegod ei fod “mor falch” o gynrychioli Cymru ochr yn ochr â chwaraewyr adnabyddus fel Jonny Clayton a Gerwyn Price.
“Mae’r ffaith fy mod i’n dod yn ôl [i’r Bencampwriaeth] ar ôl y Nadolig yn golygu y bydd e’n un llawen iawn!”
Er nad oedd o ei hun wedi siarad Cymraeg, daeth y sgwrs i ben wrth i Polly James ddymuno “Nadolig Llawen” iddo gerbron torf fyrlymus a miliynau o bobol yn gwylio adref.
Bydd Robert Owen yn chwarae yn erbyn un ai Dave Chisnall neu Ricky Evans yn y drydedd rownd.