Mae Billy Root wedi llofnodi cytundeb newydd fydd yn ei gadw gyda Chlwb Criced Morgannwg am dymor arall.

Roedd y batiwr llaw chwith yn aelod allweddol o’r timau enillodd y gwpan undydd yn 2021 a 2024, wrth adeiladu partneriaeth gyda’r capten Sam Northeast yn y ffeinal ddiweddaraf yn Trent Bridge y tymor diwethaf.

Ymunodd e â Morgannwg yn 2019, gan sgorio canred yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf yng Nghaerdydd, cyn sgorio 229 yn erbyn Swydd Northampton mewn gêm pedwar diwrnod.

Mae e wedi sgorio cyfanswm o 3,326 o rediadau dosbarth cyntaf i’r sir, ynghyd â 1,217 o rediadau Rhestr A a 357 o rediadau mewn gemau ugain pelawd.

Adeiladodd e record o bartneriaeth o 245 am y bedwaredd wiced gyda Northeast yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerwrangon yn 2022.

Adeiladodd e record o bartneriaeth mewn gêm Rhestr A gyda Marchant de Lange am yr wythfed wiced yn 2019 hefyd.

‘Agos at rywbeth arbennig’

“Dw i wrth fy modd o gael aros ym Morgannwg,” meddai Billy Root.

“Dw i wir wedi mwynhau fy amser yma dros y chwe thymor diwethaf, a dw i’n teimlo ein bod ni’n agos iawn at rywbeth arbennig yn y clwb.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o hynny.”

‘Perfformiwr o safon’

“Mae Billy wedi bod yn berfformiwr o safon yn ystod ei amser ym Morgannwg, ac mae’n wych ei fod e wedi ymrwymo i’r clwb y tymor nesaf,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae Billy wedi dangos ei allu i addasu a’i anhunanoldeb dros y tymhorau diwethaf, gan gymryd nifer o rolau gwahanol yn y tîm, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i’w weld e ar y cae gyda ni yn 2025.”