Mae Gerwyn Price allan o Gwpan Dartiau’r Byd, a bydd Jim Williams yn cymryd ei le yn nhîm Cymru.

Enillodd Price a Jonny Clayton y tlws y llynedd, ac roedd y pâr yn gobeithio amddiffyn eu teitl yn Frankfurt yn yr Almaen eleni.

Ond mae Gerwyn Price yn brwydro â’i iechyd ar hyn o bryd, ac yn dweud ei fod e’n “siomedig iawn” na fydd modd iddo fe gystadlu ac yn dymuno’n dda i’r ddau fydd yn cynrychioli Cymru yn y twrnament.

Dyma’r tro cyntaf i Jim Williams chwarae yng Nghwpan y Byd, ac fe gafodd ei ddewis fel y chwaraewr nesaf o Gymru o dan Gerwyn Price yn y rhestr ddetholion.

Cymru yw’r ail ddetholion er eu bod nhw wedi gorfod newid eu tîm, a byddan nhw’n cael pàs i’r ail rownd.