Mae timau pêl-droed Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam wedi cael gwybod trefn eu gemau ar gyfer tymor 2024-25.

Un o uchafbwyntiau’r tymor fydd y gemau darbi rhwng yr Elyrch a’r Adar Gleision, fydd yn cael eu cynnal yn Abertawe ar Awst 24 ac yng Nghaerdydd ar Ionawr 18.

Ar ddiwrnod cynta’r tymor ar Awst 10, bydd Wrecsam yn croesawu Wycombe Wanderers, Caerdydd yn croesawu Sunderland, Abertawe’n teithio i Middlesbrough, a Chasnewydd yn teithio i herio Cheltenham, sef tîm eu cyn-reolwr Michael Flynn.

Ar Ddydd San Steffan, bydd Abertawe’n croesawu QPR, Wrecsam yn croesawu Blackpool, Caerdydd yn teithio i Rydychen a Chasnewydd oddi cartref yn Bromley.

Wythnos yn ddiweddarach ar Ddydd Calan, bydd Casnewydd gartref yn erbyn Wimbledon a Chaerdydd yn croesawu Coventry, tra bydd yr Elyrch yn teithio i Portsmouth a Wrecsam oddi cartref yn Barnsley.

Daw’r tymor i ben ar Fai 3, pan fydd Abertawe’n croesawu Rhydychen, Casnewydd gartref yn erbyn Tranmere, Caerdydd yn teithio i Norwich a Wrecsam oddi cartref yn Lincoln.