Mae pump o feicwyr o Gymru wedi cael eu dewis i gynrychioli tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Paris eleni.

Bydd Emma Finucane, Lowri Thomas, Josh Tarling, Stevie Williams ac Ella Maclean-Howell yn teithio i gymryd rhan yn y gemau ddiwedd mis Gorffennaf.

Yn y sbrint i fenywod y bydd Emma Finucane, sydd eisoes wedi cael llwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad a Phencampwriaethau’r Byd, a Lowri Thomas yn cystadlu.

Cystadleuydd wrth gefn fydd Lowri Thomas, sydd wedi cystadlu yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd cyn hyn.

Ar ôl ennill y ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Prydain yr wythnos ddiwethaf, bydd Josh Tarling, sy’n dod o Aberaeron, yn gobeithio cael yr un llwyddiant yn y ras ffordd yn Paris.

Yn yr un ras fydd Stevie Williams o Aberystwyth yn cystadlu hefyd, ac yntau wedi ennill y Tour Down Under ym mis Ionawr a’r Flèche Wallonne yng Ngwlad Belg ym mis Ebrill.

Yn y gystadleuaeth beicio mynydd i fenywod fydd Ella Maclean-Howell o Lantrisant yn cystadlu, ar ôl gorffen yn y deg uchaf yng Nghwpan Beicio Mynydd y Byd.

‘Talent a dyfalbarhad arbennig’

“Rydyn ni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am gyhoeddiad carfan Tîm Prydain, gan fod ein hathletwyr wedi gweithio’n anhygoel o galed yn y cystadlaethau diweddar,” meddai Darren Tudor, Cyfarwyddwr Talent a Datblygiad Perfformiad Seiclo Cymru.

“Mae’r holl athletwyr hyn wedi dangos talent a dyfalbarhad arbennig, ac maen nhw’n llysgenhadon gwirioneddol i seiclo yng Nghymru.

“Rydyn ni’n andros o falch o’u llwyddiannau, ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw wrth baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Paris 2024.”