Mae beiciwr proffesiynol o Wynedd yn bwriadu seiclo 140 o filltiroedd mewn diwrnod, wedi iddo orfod dysgu sut i gerdded eto o ganlyniad i ganser prin.
Ar Ragfyr 7, bydd Sam Llewelyn Woodward o Waunfawr ger Caernarfon yn teithio ar gefn ei feic o Waunfawr i Gobowen ac yn ôl.
Yn 2023, ac yntau’n 18 mlwydd oed, cafodd o ddiagnosis o Leiomyosarcoma, sef math o ganser prin sy’n gallu datblygu o gelloedd ym meinwe y corff, wedi iddo ddarganfod lwmp ar ei glun chwith.
Yr unig opsiwn oedd ganddo oedd derbyn llawdriniaeth i dynnu’r tiwmor ac i sicrhau nad oedd unrhyw gelloedd canser yn cael eu gadael ar ôl.
Cafodd y llawdriniaeth yn Ysbyty Gobowen, ac yn fuan wedyn cafodd ei ruthro i Ysbyty Gwynedd ar ôl datblygu sepsis.
Yn dilyn y cyfnod o salwch, roedd yn benderfynol o wella’n gorfforol ac yn feddyliol, gan ddychwelyd i fod yn annibynnol unwaith eto.
Y cam cyntaf oedd dysgu sut i gerdded eto yn dilyn y llawdriniaethau.
Beicio’n broffesiynol
Mae Sam Llewelyn Woodward yn ymddiddori mewn beicio er pan oedd yn ifanc iawn, ac fe fu’n aelod o Glwb Beicio Egni Eryri ers tro.
Roedd y clwb wedi bod o gymorth mawr iddo yn ystod cyfnod ei salwch, meddai.
Mae beicio proffesiynol bellach yn yrfa iddo, ac yn gynharach eleni fe gafodd lwyddiant yn y PB Performance Team a chael y cyfle i fynychu gwersyll hyfforddi’r tîm yn Girona yng Nghatalwnia ar ddechrau’r flwyddyn.
“Mi wnaeth [Clwb Beicio Egni Eryri] rili helpu fi ddod yn ôl ar y beic, ac wedyn mi wnes i allu mynd mewn i dîm PB Performance ar ôl hynny,” meddai wrth golwg360.
Pencampwr Ras Ffordd Cymru 2024
Dros y misoedd diwethaf, mae Sam Llewelyn Woodward wedi bod yn seiclo ar hyd a lled y wlad, ac mae bellach yn bencampwr Ras Ffordd Cymru 2024.
Cafodd y ras ei chynnal yn Llandrindod ym mis Medi, ac mae’n dweud ei fod yn deimlad “grêt” derbyn y teitl yn dilyn ei gyfnod o salwch.
“Mi wnes i weithio’n galed i allu llwyddo yn y ras yna, ac mae’n relief mawr fod wedi gallu ei wneud o,” meddai.
Ei fwriad yw seiclo o Waunfawr i Ysbyty Gobowen ac yn ôl fis nesaf, gyda grŵp o’i ffrindiau, er mwyn codi arian at ddwy elusen bwysig iddo, sef Young Lives Vs Cancer ac Ysbyty Orthopedig Gobowen.
“Mi wnaeth [Ysbyty Gobowen] fy helpu i lot pan oeddwn i’n sâl, ac mi fyswn i’n licio gallu rhoi yn ôl iddyn nhw am y cymorth ges i,” meddai.
“[Roedd yna] nyrsys briliant yn Gobowen.
“Mi wnes i benderfynu gwneud reid o’n tŷ ni i Gobowen ac yn ôl efo ffrindiau, oherwydd y [pellter] yna oeddwn i’n gorfod ei wneud yn aml i fynd i’r ysbyty.
“Mae yna tua wyth ohonon ni’n mynd; mi fydd o’n hwyl.”
Ei obaith yw mynd yn ei flaen i rasio ar y lefel uchaf yng ngwledydd Prydain, ac mae wrthi’n brysur yn ymarfer gyda’i hyfforddwr tuag at y cam nesaf yn ei yrfa.