Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni bod Cyfarwyddwr Cyngor Ceredigion wedi camarwain ei Gabinet cyn pleidlais allweddol ar ddyfodol pedair ysgol wledig yng ngogledd y sir.

Mewn cyfarfod ar Fedi 3, awgrymodd Barry Rees ei fod wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cymru yn cadarnhau y byddai’r penderfyniad i gynnal ymghynghoriad ar gau’r ysgolion yn cydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion.

Mae’r Cod Trefnidiaeth hwn, sy’n weithredol yn genedlaethol, yn cynnwys rhagdybiaeth bwysig yn erbyn cau ysgolion gwledig pan fo opsiynau ymarferol eraill ar gael.

Ond mae’n ymddangos bod Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi gwadu bod sylwadau Barry Rees wedi derbyn unrhyw gymeradwyaeth swyddogol gan y Llywodraeth.

Dywed Cymdeithas yr Iaith na fyddai’r Cyngor wedi pleidleisio i gau’r ysgolion pe na bai Barry Rees wedi rhoi’r camargraff fod y Llywodraeth yn cymeradwyo’r penderfyniad hwnnw.

Cyfarfod

Mewn cyfarfod ar Fedi 3, pleidleisiodd mwyafrif o aelodau Cabinet Cyngor Ceredigion o blaid cynnal ymghyngoriad statudol ar gau Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Craig-yr-Wylfa, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, ac Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd.

Pryderon cyllidol a gostyngiadau yn niferoedd disgyblion yr ysgolion oedd wrth wraidd y penderfyniad hwnnw.

Cyn y bleidlais dyngedfennol, mae’n debyg i Barry Rees, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Cyngor, ddatgan ei fod wedi derbyn sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y byddai cynnal yr ymgynghoriadau yn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion.

Fel rhan o ragdybiaeth y Cod yn erbyn cau ysgolion gwledig, mae’n rhaid cynnal unrhyw broses ymgynghori pan fydd cynigion i gau ysgolion “yn dal ar gam ffurfiannol”.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dyma oedd y brif ystyriaeth weithdrefnol a chyfreithiol fyddai wedi dylanwadu ar ganlyniad y bleidlais.

‘Ddim yn sail gadarn’

Yn dilyn y cyfarfod, fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gais am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru fyddai’n cadarnhau bod Barry Rees wedi derbyn y gymeradwyaeth briodol.

Mae’r Gymdeithas wedi gwrthwynebu ymdrechion i gau’r pedair ysgol, sydd â’r Gymraeg yn iaith yr iard, o’r cychwyn.

Mae’n debyg i’r Gymdeithas dderbyn un enghraifft berthnasol yn unig o gyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion fel ymateb i’w cais rhyddid gwybodaeth.

Mewn e-bost gan swyddog anhysbys yn Llywodraeth Cymru, cafodd y neges hon ei hategu at yr unig gyngor a gafodd Barry Rees:

Noder plîs mai pwyntiau personol ydy’r rhain ac nad wyf i’n cael gwneud sylwadau cyfreithiol; dim ond wedi medru taro golwg cyflym ydw i ond dwi’n gobeithio bod hyn yn helpu.

Gwnaed y sylw hwn cyn y cyfarfod ar Fedi 3, ac mae’n ymddangos mai’r wybodaeth oedd unig sail honiadau’r Cyfarwyddwr cyn y bleidlais.

“Nid yw geiriau’r swyddog hwn yn sail gadarn i’r Cyfarwyddwr ddatgan wrth y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo eu proses o lunio cynigion i gau’r ysgolion ac, heb yr ymyrraeth a’r sicrwydd hwn, mae’n bosib iawn na fyddai mwyafrif aelodau’r Cyngor wedi bod yn fodlon dechrau ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau’r ysgolion gwledig hyn,” meddai Ffred Ffransis, arweinydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

Gwadu

Mewn ymateb swyddogol ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 19) i ymholiad Cymdeithas yr Iaith, pwysleisiodd Lynne Neagle nad yw Llywodraeth Cymru’n medru cynnig cyngor cyfreithiol swyddogol i awdurdodau lleol.

“O bryd i’w gilydd, mae cynigwyr yn cysylltu â’m swyddogion i gael cyngor mewn perthynas â chynigion posibl,” meddai.

“Fodd bynnag, mae unrhyw gyngor gaiff ei ddarparu yn anffurfiol a chyda’r ddealltwriaeth y byddan nhw yn ceisio’u cyngor cyfreithiol eu hunain i sicrhau eu bod yn dilyn camau perthnasol y Cod yn glir.

“Dw i ddim yn siŵr beth sydd y tu ôl i’r sylwadau a wnaed yng nghyfarfod Cabinet yr awdurdod lleol; fodd bynnag, gallaf gadarnhau nad yw Llywodraeth Cymru yn ardystio nac yn cymeradwyo unrhyw gynnig posibl i ad-drefnu ysgolion.”

Yn ogystal, dywedodd mai awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn dilyn trywydd cyfreithiol cywir, a bod y trywydd hwnnw, yn achos cau ysgolion gwledig, yn cynnwys gwirio pob opsiwn posib ddwywaith – cyn mynd ati i ymgynghori’n swyddogol, ac fel rhan o’r ymghyngoriad.

Dydy hi ddim yn glir a ddigwyddodd y gwirio cyntaf hwnnw cyn y bleidlais ar Fedi 3.

‘Siomedig iawn’

Er i Gymdeithas yr Iaith ddiolch i Lynne Neagle am yr eglurhad ar faterion cyfreithiol, fe wnaethon nhw fynegi rhwystredigaeth hefyd nad oedd hi wedi cadarnhau a yw gweithredoedd Cyngor Ceredigion yn torri’r Cod.

Mae pryder penodol gan y Gymdeithas nad oedd Lynne Neagle wedi beirniadu’r penderfyniad gwreiddiol hwnnw i gynnal ymgynghoriad.

Mae’r Gymdeithas yn credu y digwyddodd hyn cyn i’r opsiynau amgen priodol gael eu hystyried, yn groes i’r hyn sydd wedi’i amlinellu yn y Cod.

Ond mae Lynne Neagle yn pwysleisio bod angen i rieni a phobol sy’n byw’n lleol fynegi unrhyw bryderon fel rhan o’r broses ymgynghori, sydd bellach wedi cychwyn.

“Rydym yn siomedig iawn nad yw’r Ysgrifennydd Addysg wedi ateb ein cwestiynau sylfaenol – sef a oes raid i awdurdod lleol ddechrau o safbwynt rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig, neu a all cyngor fel Ceredigion ddechrau’r broses gyda bwriad o gau nifer o ysgolion gwledig er mwyn gwneud arbedion yn y Gyllideb?” meddai Ffred Ffransis.

“Ac a oes ystyr i’r hyn a ddywedir yn blaen yn y Cod fod yn rhaid ystyried opsiynau amgen “tra bo cynigion yn dal ar gam ffurfiannol”, neu a ydy Ceredigion yn cael penderfynu ar gynnig i gau ysgolion yn gyntaf, ac yna fynd ati’n beiriannol i wrthod pob opsiwn amgen gyda’r un frawddeg generig ym mhob achos?

“Gobeithiwn na fydd raid i Lywodraeth ym Mae Caerdydd ddweud wrth Gyngor yn y gorllewin, dan arweiniad Plaid Cymru, fod yn rhaid iddyn nhw amddiffyn ysgolion a chymunedau gwledig Cymraeg, ond y bydd cynghorwyr yn pleidleisio dros hynny eu hunain.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Ceredigion.