Mae Andrew RT Davies wedi cyhuddo Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, o “fradychu” ffermwyr drwy gefnu ar addewid etholiadol.
Fe fu arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd yn siarad â golwg360 yng nghyd-destun y brotest gafodd ei chynnal yn Llundain ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 19).
Drwy’r brotest, dangosodd ffermwyr eu dicter ynghylch bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ers 1992, dydy ffermwyr ddim wedi bod yn talu’r dreth etifeddiant ar dir sydd yn cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf.
O ganlyniad i Gyllideb y Canghellor Rachel Reeves, bellach fe fydd ffermwyr yn talu 20% o dreth ar eiddo ffermydd o’r £1m cyntaf i fyny.
20% fydd cyfradd y dreth etifeddiant, yn lle’r 40% arferol.
“Maen nhw (Llywodraeth y Deyrnas Unedig) wedi bradychu ffermwyr,” meddai Andrew RT Davies wrth golwg360.
“Oherwydd, cyn yr etholiad cyffredinol, dywedodd Keir Starmer nad oedd ganddo fe fwriad i newid rhyddhad eiddo amaethyddol.”
Yn ystod Cynhadledd yr NFU fis Ionawr y llynedd, dywedodd Keir Starmer ei bod hi’n “ymddangos bod pob diwrnod yn dod â risg dirfodol i ffermio ym Mhrydain” ac nad yw “colli fferm fel colli unrhyw fusnes arall – dydy ffermydd ddim yn gallu dod yn ôl”.
Ychwanegodd fod diffyg byrder Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ar y pryd, a’r prinder sylw i fanylder a chynllunio hirdymor “yn annerbyniol”.
Yn ôl Andrew RT Davies, mae’r sylwadau hyn yn dangos pam nad oes gan y cyhoedd “unrhyw ffydd mewn gwleidyddion”.
Diffyg ymgysylltu
Fe fu ffermwyr yn protestio tu allan i Gynhadledd Llafur Cymru ddydd Sadwrn (Tachwedd 16), tra bod Syr Keir Starmer yn traddodi ei araith gerbron aelodau’r blaid.
Digwyddodd yr un fath yn Llandudno yn ystod Cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig ar ddechrau’r flwyddyn, er mwyn protestio yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Aeth y cyn-Brif Weinidog Rishi Sunak i siarad â’r ffermwyr bryd hynny, ond wnaeth Syr Keir Starmer ddim dilyn ei esiampl y tro hwn.
“Mi ddaru Rishi Sunak fynd allan i drafod ac ymgysylltu efo’r protestwyr tu allan tra roedd e’n Brif Weinidog,” meddai Andrew RT Davies.
“Ond ddydd Sadwrn, aeth Keir Starmer ar y llwyfan a dweud ei fod am amddiffyn y Gyllideb hyd y diwedd.
“Ac wedyn wnaeth e adael drwy’r drws cefn – mae hynny’n dangos diffyg argyhoeddiad.”
‘Diogelwch bwyd mor bwysig â diogelwch cenedlaethol’
Yn ôl Andrew RT Davies, mae “diogelwch bwyd” hefyd yn “broblem fawr”.
“Mae yna lot o sôn am Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) yn cynyddu i 2.5% – rhywbeth dwi’n ei ganmol,” meddai.
“Ond beth yw’r pwynt prynu’r tanciau, y llongau tanfor a’r awyrennau yma heb allu cynhyrchu’r bwyd sydd ei angen mewn gwlad?”
Ychwanega ei fod yn credu bod diogelwch bwyd “mor bwysig â diogelwch cenedlaethol”.
“Dros y degawdau diwethaf ym Mhrydain, rydyn ni wedi mynd i lawr o fod yn 75% yn hunangynhaliol o ran bwyd, i lai na 60%,” meddai.
“A dw i’n siŵr y byddai unrhyw lywodraeth gymwys eisiau mwy o ddiogelwch bwyd.”