Fe fydd rôl arbennig yn cael ei chreu ar gyfer dirprwy arweinydd Cyngor Sir Benfro, yn dilyn galwadau i’r Cyngor llawn – y tro cyntaf i rôl o’r fath gael ei chreu ar gyfer uwch swyddog.
“Gyda’r newidiadau diweddar i’r Gyllideb gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ar y Dreth Etifeddiant a Rhyddhad Eiddo Amaethyddol, mae nifer o ffermwyr Sir Benfro yn teimlo’n bryderus am ddyfodol eu ffermydd teuluol, a nifer ohonyn nhw yn Sir Benfro wedi bod yn yr un teulu ers cenedlaethau,” meddai’r Cynghorydd Di Clements, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, wrth holi’r Cynghorydd Jon Harvey, arweinydd y Cyngor, yn ystod cyfarfod Rhagfyr o Gyngor Llawn Sir Benfro.
“Dw i wedi’i chael hi’n siomedig yn yr holl flynyddoedd dw i wedi bod yn gynghorydd, gyda chyyfraniad mawr ffermio at les economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol y sir, na fu yna deitl Materion Gwledig, Ffermio nac Amaeth ar gyfer Aelod Cabinet.
“Er mwyn dangos bod y Cyngor hwn yn cydnabod pwysigrwydd amaeth, a’r cannoedd o filoedd o bunnoedd sy’n cael ei gynhyrchu gan ffermio, a fydd yr arweinydd yn ystyried ei gynnwys yn un o deitlau portffolio Aelodau ei Gabinet?”
‘Hanfodol bwysig’
“Dw i’n rhannu eich persbectif yn llwyr,” meddai’r Cynghorydd Jon Harvey wrth ateb.
“Mae’n wir na fu gan y Cyngor erioed Aelod Cabinet â’r rôl yma.
“Fodd bynnag, galla i ailystyried, a dw i’n ystyried pob agwedd ar fywyd gwledig yn hanfodol bwysig.”
Dywedodd wrth aelodau fod ffermio a materion gwledig yn dod o dan bortffolio’r dirprwy arweinydd Paul Miller.
“Rydyn ni oll yn ymwybodol o’r agweddau newidiol ar fywyd gwledig ar hyn o bryd,” meddai.
“Mae gennym ni bencampwr materion gwledig, y Cynghorydd Steve Alderman, ond dw i wedi cael sgwrs â’r dirprwy arweinydd ac wedi cytuno i adolygu’r teitl hwn er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd y rôl, a byddaf yn hapus i wneud cyhoeddiad dros y dyddiau nesaf.”
‘Cydnabod pwysigrwydd’
“Mae’r geiriau hyn yn dweud llawer,” meddai’r Cynghorydd Di Clements.
“Mae’n dangos bod y Cyngor hwn yn cydnabod pwysigrwydd y busnes mwyaf cyson, os nad y busnes pwysicaf, yn y sir.”