Mae angen “uchelgais” ar Lywodraeth Cymru os ydyn nhw am gael cynllun “gwerthfawr” sy’n “mynd i gyflawni cymaint o amcanion yng Nghymru”, yn ôl Llywydd NFU Cymru.

Ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 12), fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau bod 94% o ffermydd Cymru wedi derbyn taliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol erbyn hyn.

Pe bai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei gytuno’r flwyddyn nesaf, bydd gan ffermwyr ddewis rhwng taliad llai o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol neu symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fydd yn cynnwys targedau cynaliadwyedd a natur.

“Siawns wnân nhw sylweddoli nad ydyn nhw’n mynd i allu cael lansiad da iawn efo fo os ydyn nhw’n mynd i roi ceiniogau ar ei gyfer o,” meddai Aled Jones wrth golwg360.

“Dw i’n gobeithio y byddan nhw’n edrych ymlaen at 2026 ac yn ystyried mai ffermio yw’r fan lle mae angen rhoi cyllideb, a hynny dros sawl blwyddyn.”

Ychwanega fod angen rhagor o “sicrwydd” ar ffermwyr.

Cyn Brexit, roedd y Deyrnas Unedig yn derbyn taliadau gan yr Undeb Ewropeaidd o dan y Plisi Amaethyddol Cyffredinol, ac felly roedd ffermwyr yn gwybod pa gymorth ariannol fyddai’n dod bob saith mlynedd.

‘Taliad sengl wedi ddiolgelu’

Dywed Aled Jones nad yw’r Gyllideb sydd wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru’n “flaengar” i’r diwydiant amaethyddol.

“Ti’n sôn am gyllideb o tua £380m ar hyn o bryd,” meddai.

“Ond o ystyried chwyddiant, mi fysai hwn wedi’i godi fo yn nes at £500m.”

Ychwanega fod y diwydiant amaeth yn hynod o bwysig o ran “gwerth am arian”, gan ddadlau nad oes “un diwydiant yn cyflawni mwy o werth am bob punt sydd yn cael ei wario” nag amaeth.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.