Sicrhau bod “y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir” ydy blaenoriaeth adolygiadau awdurdodau lleol Cymru ar ffyrdd 20m.y.a., yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru.

Fe achosodd y polisi 20m.y.a. gryn gynnwrf pan gafodd ei weithredu’r llynedd, ac er gwaetha’r dystiolaeth sy’n awgrymu i’r polisi lwyddo i leihau anafiadau a marwolaethau, mae’n dal i fod yn bwnc llosg ar lawr gwlad.

Mae awdurdodau lleol bellach wrthi’n adolygu adborth gan bobol, busnesau a chymunedau ledled Cymru i sicrhau bod y polisi 20m.y.a. wedi’i dargedu ar y ffyrdd cywir.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau diwygiedig fis Gorffennaf.

Sir y Fflint oedd yr awdurdod lleol cyntaf i gynnal ymgynghoriad o’r fath, ac mae awdurdodau eraill am lansio ymgynghoriadau pellach yn y dyfodol agos.

Mae ymgynghoriad newydd Wrecsam, sydd wedi’i lansio heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 13), am ailystyried y cyfyngiadau cyflymder o 20m.y.a. ar 52 o ffyrdd yn yr ardal.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth eisoes wedi datgan bod y rhan fwyaf o ffyrdd gafodd eu newid yn rhai 20m.y.a. y llynedd wedi’u canfod yn ddilys, ac nad ydyn nhw am gael eu newid yn ôl yn rhai 30m.y.a.

Dywedodd heddiw wrth ymweld â’r dref ei fod yn “falch o weld cynghorau’n gwrando ar farn pobol ac yn gwneud cynnydd o ran adolygu’r ffyrdd yn eu hardaloedd maen nhw’n credu y gellid eu newid yn ddiogel yn ôl i 30m.y.a.”.

“Prif amcan y polisi yw achub bywydau a lleihau nifer y bobol sy’n cael eu hanafu, ac mae tystiolaeth eang ei fod yn gwneud hynny.

“Fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â chael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir, gan adeiladu o’r consensws eang mai 20m.y.a. sy’n iawn lle mae pobol yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.”