Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi rali tros addysg Gymraeg, wrth iddyn nhw ymateb i adroddiad un o bwyllgorau’r Senedd i Fil y Gymraeg ac Addysg.
Mae’r Gymdeithas yn feirniadol o’r adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg am iddyn nhw fethu â dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr hyn maen nhw’n eu galw’n wendidau yn eu cynlluniau ar gyfer dyfodol addysg Gymraeg.
Bwriad y Bil yw darparu sail statudol ar gyfer targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
Ond dywed y Gymdeithas nad yw’n ddigon cryf i lwyddo yn ei nodau, ac nad yw adroddiad y pwyllgor ddim yn mynd i’r afael â’r gwendidau.
Bydd y rali’n cael ei chynnal ar risiau’r Senedd er mwyn cefnogi’r 80% o blant yng Nghymru sy’n gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus.
‘Pryder’
“Ar hyn o bryd, mae 80% o’n plant a phobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus, gan nad ydyn nhw wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai Toni Schiavone mewn llythyr agored at y pwyllgor.
“Ein pryder ni yw bydd y sefyllfa yma’n parhau hyd yn oed wedi i’r Bil gael ei basio gan ein Senedd, gan nad yw hanner digon cryf ar hyn o bryd o ran targedau, cynllunio a chyllido i esgor ar y newid radical sydd ei angen i roi’r Gymraeg i bob plentyn.”
Mae aelodau’r Pwyllgor wedi’u gwahodd i rali fawr ‘Sefyll gyda’r 80%: Addysg Gymraeg i Bawb’, fydd yn digwydd tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ar Chwefror 15.
Bydd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith, y bardd a llenor Hammad Rind, a Catrin Edith, Is-Lywydd y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ymhlith y siaradwyr.
“Gan nad yw’n gwleidyddion yn fodlon sefyll gyda’r 80% o blant a phobol ifanc sy’n cael eu hamddifadu o’r Gymraeg, byddwn ni’n cynnal rali tu allan i’r Senedd ar Chwefror 15 er mwyn dangos bod pobol Cymru yn cyd-sefyll gyda nhw,” meddai Toni Schiavone wedyn.
“Os yw’r Gymraeg wir yn perthyn i bawb, byddwch chi’n defnyddio’ch grym fel aelodau etholedig ein Senedd genedlaethol yn y misoedd i ddod i ddylanwadu er mwyn gwireddu dyheadau pobol Cymru a hawliau ein plant i siarad ein hiaith genedlaethol, a chyflwyno gwelliannau fydd yn newid y ddeddfwriaeth unwaith mewn cenhedlaeth yma yn sylweddol er mwyn iddi fod yn un wirioneddol drawsnewidiol.
“Mewn arolwg barn diweddar gan YouGov, gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas yr Iaith, roedd 59% o bobol gafodd eu holi yn credu y dylai ysgolion anelu i addysgu pob disgybl i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, gyda 29% yn anghytuno a 12% yn ateb ‘ddim yn gwybod’.
“O hepgor y rhai atebodd ‘ddim yn gwybod’, roedd y ganran o blaid yn codi i 67%.”