Fe wnaeth cynlluniau i weddnewid addysg Gymraeg basio’r cam cyntaf yn y Senedd, er gwaethaf pryderon am brinder staff, llwyth gwaith athrawon a’r gost i ysgolion.

Fe wnaeth Aelodau’r Senedd gytuno’n unfrydol i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a’r Gymraeg, oedd yn rhan o’r hen Gytundeb Cydweithio rhwng gweinidogion a Phlaid Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford wrth y Senedd mai nod y diwygiadau yw gwella sut y caiff y Gymraeg ei dysgu, gan sicrhau bod pob disgybl yn dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus erbyn diwedd oed ysgol gorfodol.

“Mae’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg,” meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

“Bu’n orfodol iddyn nhw ddysgu Cymraeg ers degawdau bellach.

“Ond rydyn ni’n gwybod nad ydyn ni wedi llwyddo wrth ddarparu profiadau o’r un safon iddyn nhw.”

£100m

Byddai’r bil, fyddai’n costio oddeutu £103.2m yn y blynyddoedd hyd at 2034-35, yn gosod lefel isafswm o 10% o ran faint o Gymraeg fyddai’n cael ei darparu mewn ysgolion Saesneg yn bennaf.

Byddai hefyd yn:

  • gosod targedau, gan gynnwys miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ar sail gyfreithiol
  • gosod ffordd safonol o ddisgrifio gallu ieithyddol yn seiliedig ar fframwaith CEFR
  • sefydlu categorïau newydd o ysgolion
  • creu cadwyn o gyfrifoldeb gyda dyletswyddau ar ysgolion, cynghorau a gweinidogion
  • sefydlu Sefydliad Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

“Os yw’r bil am lwyddo, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod yna gapasiti o fewn y system addysg i’w weithredu,” meddai Mark Drakeford, wrth arwain dadl ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 15).

Cyfeiriodd at gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle am gynllun gweithlu strategol, fydd yn cynnwys addysgu Cymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymrwymodd Mark Drakeford i gyflwyno gwelliannau i fynd i’r afael â phryderon y gweithlu wrth i’r bil symud drwy broses graffu pedwar cam y Senedd.

‘Y rhwystr mwyaf’

“Mae’n beth prin i darged llywodraeth… gydio yn y dychymyg yn ehangach, ond dyna mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi’i wneud,” meddai Buffy Williams, cadeirydd y Pwyllgor Addysg.

“Ond eto, mae canlyniad y Cyfrifiad diwethaf yn dangos gostyngiad yn nifer y bobol sy’n dweud eu bod nhw’n siaradwyr Cymraeg.

“Mae’n amlwg fod angen gweithredu er mwyn gwyrdroi’r gostyngiad hwn.

“Rydyn ni’n credu bod y bil yn fecanwaith pwysig i gefnogi’r targed yma i gael ei fwrw.”

Rhybuddiodd Buffy Williams mai’r rhwystr mwyaf yw cael gweithlu â’r sgiliau cywir.

“Dydy hyn ddim am fod yn hawdd,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod fod yna brinder ledled Cymru ar hyn o bryd.”

Galwodd am eglurder o ran categorïau ysgolion newydd arfaethedig: Cymraeg yn bennaf, dwyieithog, a Saesneg yn bennaf, rhannol Gymraeg, a’r targedau ar gyfer pob un.

‘Eisoes wedi’u hymestyn’

Fe wnaeth Sam Kurtz, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg, groesawu’r uchelgais i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

“Mae heriau allweddol o hyd, yn enwedig yn nhermau capasiti’r gweithlu,” meddai, gan rybuddio am oblygiadau ariannol ysgolion a chynghorau sydd “eisoes wedi’u hymestyn”.

Fe wnaeth e ddadlau y dylid fod wedi datblygu’r cynllun gweithlu ochr yn ochr â’r bil, gan dynnu sylw at y ffaith nad oedd sôn am y Gymraeg yn natganiad yr Ysgrifennydd Addysg.

Dywedodd Cefin Campbell o Blaid Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi gostwng uchelgais y bil ers i’w blaid ddod â’r Cytundeb Cydweithio i ben, gyda gweinidogion yn “rhwyfo’n ôl” ar rai elfennau.

Dywedodd Cefin Campbell, cyn-ddarlithydd a llefarydd addysg Plaid Cymru, fod targedau i ehangu addysg Gymraeg wedi cael eu methu ers dros ugain mlynedd.

‘Bregus dros ben’

Fe wnaeth Alun Davies, oedd wedi cyflwyno’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn wreiddiol, gefnogi’r bil ond fe rybuddiodd yn erbyn categorïau ysgolion sy’n or-gymhleth.

“A bod yn hollol onest gyda chi, a doeddwn i ddim eisiau dweud hyn ar y pryd, pan oeddwn i’n weinidog â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, a nawr, dw i ddim yn siŵr fy mod i’n deall yr holl gategorïau ysgolion sydd gyda ni,” meddai.

Wrth rybuddio bod ieithoedd lleiafrifol yn “fregus dros ben” o amgylch y byd, fe wnaeth Lee Waters, aelod arall o feinciau cefn Llafur, ddisgrifio’r bil fel cam pwysig ac unigryw o uchelgeisiol.

Dywedodd fod disgyblion mewn ysgolion Saesneg yn bennaf yn cael “cam” ar hyn o bryd, ac mai prin yw’r gobaith iddyn nhw adael yr ysgol yn gallu cael sgwrs ystyrlon yn Gymraeg.

Awgrymodd Lee Waters fod hyn yn arwain at ddrwgdeimlad a chwerwder ymhlith disgyblion sy’n wynebu’r fath brofiad gwael, ac “felly mae’n hanfodol ein bod ni’n canolbwyntio ar safon darpariaeth Saesneg”.