Mae Clwb Rygbi Crosskeys yn dweud y bu diffyg cefnogaeth iddyn nhw yn dilyn difrod gafodd ei achosi gan lifogydd yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd.
Cafodd dros £20,000 o ddifrod ei achosi i’r clwb, gan gynnwys neuadd, ardal gymunedol a’r cae, a dim ond mis yma mae gemau wedi gallu cael eu cynnal yno eto.
Mae’r clwb wedi’i leoli ym Mhont-y-cymer ger afon Ebwy yn sir Caerffili.
Mae dŵr o’r afon wedi gorlifo yn ystod tywydd drwg yn ddiweddar.
‘Dim diddordeb’
Yn ôl Angie Pragnell, Ysgrifennydd Clwb Rygbi Crosskeys, dydy’r clwb ddim wedi derbyn cymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), na Lywodraeth Cymru yn dilyn y dinistr.
“Sa i’n credu bod ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb,” meddai wrth golwg360.
Mewn oes pan fo cyllidebau’n brin, mae awdurdodau lleol wedi cael eu gorfodi i wneud toriadau i’w cyllidebau eu hunain.
Cafodd hyn ei adlewyrchu yn Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon, Degawd o doriadau, sy’n trafod y posibilrwydd o warchod arian i wasanaethau o fewn y meysydd hyn – rhywbeth sy’n cael ei gefnogi gan Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.
Dywed Angie Prangell fod y sefyllfa ariannol bresennol yn rhoi pwysau ar awdurdodau i “dorri gwariant ym mhobman”.
“Ac, yn anffodus, mae chwaraeon yn dueddol o fod ar waelod eu blaenoriaethau,” meddai.
Mae’r clwb dibynnu ar ewyllys da gwirfoddolwyr i dacluso’r difrod, a thimau eraill yn y cymoedd sydd wedi cyfrannu arian.
“Mae wedi bod yn ymdrech fawr gan y gymuned,” meddai Angie Pragnell.
“Fe wnaeth Clwb Rygbi Castell-nedd gyfrannu £300 gan y cefnogwyr o un o’u gemau nhw.
“Ac ar Ragfyr 28, fe wnaeth Trecelyn gyfrannu eu cyfran nhw o’r arian o’r gêm yn ein herbyn ni, sef £2,800 felly roedd hyn yn ardderchog i ni.”
‘Angenrheidiol i adeiladu amddiffynfeydd yn erbyn llifogydd’
Wrth drafod y posibilrwydd o ragor o lifogydd yn yr ardal, dywed Angie Pragnall fod rhaid adeiladu amddiffynfeydd i leihau effaith tywydd drwg “ar unwaith”.
Ychwanega na all y clwb oroesi’r math yma o ddinistr eto yn y dyfodol.
Yn ôl Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli perygl llifogydd ar y prif afonydd a’r môr.
Mae 22 Awdurdod Lleol yr Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear ac o nentydd llai sy’n cael eu galw’n gyrsiau dŵr cyffredin.
Mae Angie Pragnell yn dweud bod gwaith i uwchraddio’r rheilffordd i fyny i Lyn Ebwy wedi eu gorfodi nhw i gulhau’r afon, sydd wedi cynyddu’r perygl o lifogydd.
“Y peth rhesymol i’w wneud fyddai rhoi amddiffynfeydd drwy’r holl ddyffryn,” meddai.
“Ond wedyn, rydyn ni mewn sefyllfa lle mae’r Cyngor yn dweud nad eu cyfrifoldeb nhw ydy e.
“Felly maen nhw i gyd yn ceisio cuddio rhag y cyfrifoldeb.”
Mae golwg360 yn deall bod Ruth Jones, yr Aelod Seneddol dros Orllewin Casnewydd ac Islwyn, wedi gwahodd yr awdurdodau priodol i gyfarfod i drafod y sefyllfa.
Sefyllfa “torcalonnus”
Er bod Clwb Rygbi Crosskeys bellach wedi ailagor, dywed Angie Pragnell fod y sefyllfa’n parhau i fod yn “dorcalonnus”.
“Sa i’n gallu rhoi e i mewn i eiriau,” meddai.
“Mae e’n fwy na chlwb rygbi; mae e’n hwb i’r gymuned hefyd, a’r unig glwb yn y pentref.”
Ychwanega fod “rhaid cael yr amddiffynfeydd ar yr afon i’w stopio fe rhag digwydd eto.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyfoeth Naturiol Cymru.