Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ymosod yn chwyrn ar gwmnïau dŵr Hafren Ddyfrdwy a Severn Trent.

Maen nhw’n cyhuddo’r ddau gwmni o dwyllo’r cyhoedd ac o lenwi afonydd a moroedd â charthion.

Daw’r feirniadaeth ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Severn Trent bron â threblu eu helw yn ystod hanner cynta’r flwyddyn ariannol hyd at fis Medi i £141.4m.

Maen nhw hefyd wedi cynyddu’r rhandaliadau i’w rhanddeiliaid.

Daw hyn er i gwsmeriaid Hafren Ddyfrdwy weld cynnydd o £128 yn eu biliau eleni, sydd ymhlith y cynnydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Carthion

Mae Hafren Ddyfrdwy a Severn Trent yn parhau i ollwng carthion mewn afonydd, medd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd 3,057 o ollyngiadau oedd wedi para dros 30,000 o oriau dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n gynnydd o gymharu â blynyddoedd cynt.

Mae Hafren Ddyfrdwy, sy’n is-gwmni i Severn Trent, yn gwasanaethu cwsmeriaid yn Sir Drefaldwyn a gogledd-ddwyrain Cymru.

Fe wnaeth y cwmni fethu â bodloni safonau dŵr yfed glân eleni.

Roedden nhw eisoes dan y lach am dalu bonws o £3.36m i’w penaethiaid dros y flwyddyn ddiwethaf.

‘Anllad’

“Bydd trigolion ledled canolbarth Cymru’n ei chael hi’n hollol anllad fod Severn Trent a Hafren Ddyfrdwy wedi gwneud elw mor fawr ac wedi talu rhagor o randaliadau eto, ond wedi cynyddu eu prisiau i gwmseriaid ac yn parhau i ollwng carthion yn ein hafonydd,” meddai’r Cynghorydd Glyn Preston.

“Cafodd fy nhrigolion eu bwrw â chynnydd mewn biliau dŵr oedd ymhlith yr uchaf yn y Deyrnas Unedig dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae’r cwmnïau dŵr yn credu ei bod hi’n iawn iddyn nhw frolio’u bod nhw bron â threblu eu helw.

“Dyma’n union pam fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn ymgyrchu mor galed i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’n cwmnïau dŵr drygionus.

“Mae angen rheoleiddio go iawn arnom, a gwell reoleiddiwr nag Ofwat, sydd wedi gadael i brif weithredwyr gael gwneud hyn am yn rhy hir.”

‘Rhaid i hyn stopio’

“Allech chi ddim gwneud hyn i fyny,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mae cwmnïau dŵr wedi dweud wrth drigolion y bydd yn rhaid i’w biliau dŵr gynyddu er mwyn talu i lanhau gwerth degawdau o ollwng carthion ac isadeiledd ffaeledig, ond eto mae elw Severn Trent wedi treblu.

“Mae hyn ar ben y ffaith fod Severn Trent eisoes wedi talu bonws dros £3.3m y llynedd, yn ychwanegol at y rhandaliadau diweddaraf i randdeiliaid.

“Mae’r cwmnïau hyn yn twyllo’r cyhoedd ar yr un pryd â llenwi’n hafonydd a’n moroedd â charthion.

“Rhaid i hyn stopio.

“Rhaid i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig gyflwyno rheoliadau cryfach er mwyn mynd i’r afael â gollwng carthion ac elw gormodol ein diwydiant dŵr.

“Ni all fod rhagor o esgusodion.”