Mae nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n dewis astudio cyrsiau TGAU Ffrangeg neu Almaeneg wedi dirywio’n sylweddol yn y deng mlynedd ddiwethaf, yn ôl adroddiad diweddar gan British Council Cymru.
Mae cyn lleied â 4,000 yn ceisio’r pynciau hyn yn 2024, o gymharu â 7,500 yn 2015, y flwyddyn gyntaf y cynhaliodd y British Council arolwg Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru.
Yn ogystal, mae’r nifer sy’n dysgu Almaeneg yng Nghymru erbyn hyn “bron yn ddiflaniedig”, gyda 62 yn unig yn ceisio am dystysgrif Safon Uwch yn yr iaith yng Nghymru eleni – er mai’r Almaen ydy un o bartneriaid masnach mwyaf y Deyrnas Unedig.
Disgyblion ddim yn gweld perthnasedd
Ers i British Council Cymru ddechrau cynnal eu harolygon, maen nhw wedi sylwi ar ddirywiad difrifol.
Dyma ddywedodd un athro oedd ynghlwm â’r adroddiad:
“Rydyn ni’n poeni’n fawr am ddyfodol ieithoedd, nawr yn fwy nag erioed. Waeth faint rydyn ni’n ceisio hyrwyddo pwysigrwydd ieithoedd a’u perthnasedd i fyd gwaith, rydyn ni’n teimlo nad oes fawr ddim yn newid.”
Beth ydy achos y dirywiad, felly?
Mae’r rhesymau gwleidyddol ac ariannol cyfarwydd, fel cyfyngiadau ar gyllidon ysgolion a phrinder staff cymwys, yn rhan o’r ateb.
“Y prif reswm wnaeth athrawon ei gynnig am pam nad oedd disgyblion yn dewis dysgu ieithoedd oedd bod cymaint o wledydd o amgylch y byd, bellach, un ai’n siarad Saesneg yn swyddogol neu’n gorfod dysgu Saesneg i safon mor uchel,” meddai Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru, wrth golwg360.
Mae’n ymddangos mai dyna sydd wrth wraidd yr un dirywiad sydd wedi’i nodi yn adroddiadau’r British Council ar Loegr a Gogledd Iwerddon hefyd.
Mae newidiadau technolegol a pha mor boblogaidd ydy defnyddio Saesneg ar y rhyngrwyd wedi atgyferthu’r argraff hon mai Saesneg ydy’r unig iaith sydd ei hangen er mwyn cyfathrebu.
‘Angen gweledigaeth ryngwladol ar Gymru’
Ond mae cymryd yn ganiataol nad oes unrhyw fudd i ddysgu iaith ryngwladol erbyn hyn yn anghywir, yn ôl Ruth Cocks.
“Yn aml, mae’r broblem yn deillio o agweddau staff uwch-dîm ysgolion,” meddai.
“Mae angen argyhoeddi rheolwyr yr ysgolion nad dim ond dysgu’r iaith mae addysg iethyddol yn ei ddarparu; mae’n ymwneud â dysgu am ddiwylliant arall, am arferion eraill, ac am sut i gyfathrebu’n rhyngwladol.
“Mae angen gweledigaeth ryngwladol ar Gymru os yw hi’n dyheu i fod yn wlad sy’n rhan o’r gymuned ryngwladol.
“Mae angen i staff ysgolion fod yn ymwybodol o bwysigrwydd dinasyddiaeth ryngwladol.
“Mae angen ysgogi’r genhedlaeth nesaf o ddiplomyddion a phobol fusnes.
“Mae siarad iaith wir yn gwneud cymaint o wahaniaeth o ran adeiladu perthnasau rhynwgladol.
“Fedrwn ni ddim dibynnu ar ryw ragdybiaeth fod pawb yn siarad Saesneg.”
Cwricwlwm newydd
Nid dim ond agweddau newidiol sy’n peri gofid i gyflenwad addysg ieithyddol, fodd bynnag.
Yr ail reswm mwyaf poblogaidd gynigiodd athrawon am pam nad oedd disgyblion yn dewis dysgu iaith yw natur yr arholiadau.
Dyma ddywedodd un athro anhysbys gafodd ei ddyfynu yn yr adroddiad:
“Mae’r nifer sy’n astudio ar gyfer TGAU wedi lleihau, ac mae natur heriol TGAU yn atal dysgwyr sy’n ystyried astudio iaith ar gyfer Safon Uwch rhag gwneud hynny.
“Ni allaf ddeall pam fod papurau gwrando a darllen TGAU mor anodd, tra bod ffiniau’r graddau mor isel – mae hyn mor dorcalonnus ac yn stopio nifer o ddysgwyr rhag parhau i Safon Uwch.
“Does bosib mai canfod beth mae dysgwyr TGAU yn ei wybod yw’r nod yn hytrach na’r hyn nad ydyn nhw yn ei wybod.”
Yn ogystal, mae pryder cyffredinol gan athrawon a disgyblion fod cyrsiau ieithoedd yn hen-ffasiwn ac heb fedru mynd i’r afael â defnydd iaith yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae’n ymddangos bod bwrdd arholi CBAC wedi ymateb i’r pryderon hyn, a hwythau wrthi eleni’n paratoi rhaglenni mwy cyfoes fydd yn adlewyrchu’r ffyrdd mae pobol ifanc yn cyfathrebu.
“Dydy pobol ifanc ddim yn anfon llythyrau at eu ffrindiau nhw dramor erbyn hyn!”, meddai Ruth Cocks.
“Mae gen i ryw deimlad y bydd diweddaru’r cyrsiau yma’n gwneud byd o les.”
Cronni adnoddau
Mae problemau o ran adnoddau yn bryder hefyd.
“Mae’n dorcalonnus clywed am ddisgyblion sydd wir eisiau dysgu iaith, ond am fod gan gyn lleied o’u cyd-ddisgyblion yr un awydd, does dim modd iddyn nhw wneud,” meddai Ruth Cocks.
“Dydy ysgolion methu cyfiawnhau cyflenwi pwnc os mai dim ond dau neu dri disgybl sy’n dymuno dysgu iaith – ond os ydych chi’n lluosogi hynny ledled Cymru, mae’n bosib bod hyd at 300 o ddisgyblion bob blwyddyn sy’n dymuno dysgu iaith ond sydd yn methu oherwydd diffyg cyflenwad.”
Cafodd y ddadl hon ei hadleisio gan un athrawes gafodd ei dyfynnu yn yr adroddiad:
“Mae llai a llai o ddysgwyr yn dewis AS Ffrangeg yn fy ysgol, felly nid yw’r cwrs yn rhedeg hyd nes y gallwn recriwtio cohort mwy. Ni fydd AS Sbaeneg yn rhedeg y flwyddyn nesaf chwaith gan nad oes ymgeiswyr gennym.”
Ond yr un modd ag y mae datblygiad technolegol wedi gwneud i ieithoedd rhyngwladol ymddangos yn fwy amwys ac amherthnasol, mae datrysiadau technolegol i’r problemau cyflenwad hyn hefyd.
Mae’r adroddiad yn argymell cronni adnoddau rhwng ysgolion, neu gynnig athrawon teithiol fydd yn medru cynnig gwersi ar draws sawl ysgol.
“Mae datrysiad ymarferol ar gael yma,” meddai Ruth Cocks.
Y Gymraeg yn cynnig budd ar lefel ryngwladol
Er bod dirywiad tebyg yn bodoli mewn gwledydd sy’n siarad Saesneg yn bennaf, mae elfen arbennig yn perthyn i’r naratif yma yng Nghymru, sef yr iaith Gymraeg.
Mae’n bryder gan Ruth Cocks fod rhai ysgolion yn defnyddio dysgu Cymraeg fel ail iaith fel ffordd o esgusodi peidio â chyflenwi cyrsiau ieithoedd rhyngwladol.
“Yn amlwg, mae’r Gymraeg yn hanfodol yn ysgolion Cymru, ac mi fydd nifer o ysgolion Saesneg eu hiaith yn dadlau mai dysgu Cymraeg ydy cynnig iethyddol eu hysgolion,” meddai.
Ond mae modd troi hyn yn fudd i Gymru hefyd.
“Mae Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn genedl ddwyieithog – mae hynny’n beth hynod gadarnhaol, ac mae’n denu sylw rhyngwladol.
“Roedd ymweliad â Chymru’n ddiweddar gan wleidyddion o lywodraethau rhanbarthol India, oedd eisiau dysgu gan Lywodraeth Cymru am sut mae gweithredu polisïau amlieithrwydd.
“Yn ogystal, mae nifer o astudiaethau’n awgrymu bod bod yn ddwyieithog yn hwyluso dysgu iaith ychwanegol.
“Mae angen i ni ddefnyddio cryfderau addysg Gymraeg, ac amgyffred gwir arwyddocâd bod yn genedl ddwyieithog, er mwyn sefydlu’r perthnasau rhyngwladol yma.”