Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio y gallai Storm Bert achosi llifogydd y penwythnos hwn.
Mae disgwyl glaw trwm a pharhaus a gwyntoedd cryfion ledled y wlad ddydd Sadwrn (Tachwedd 23) a dydd Sul (Tachwedd 24).
Gallai hyn arwain at ddŵr sylweddol yn cronni ar y ffyrdd ac afonydd yn gorlifo, yn enwedig wrth i eira doddi’n gyflym hefyd.
Mae rhybudd melyn am law yn ei le dros y rhan fwyaf o Gymru o 6 o’r gloch fore Sadwrn tan 6 o’r gloch fore Sul, gyda rhybudd melyn am wyntoedd mewn grym ar hyd arfordir y gogledd-orllewin a’r gorllewin rhwng 5yb a 7yh ddydd Sadwrn.
Mae ymateb aml-asiantaeth ar y gweill, gan wirio bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn gweithio a bod modd cadw pobol a’u heiddo’n ddiogel.
Cyngor
Mae pobol yn cael eu hannog i ystyried cymryd camau i fod yn barod ar gyfer llifogydd ac er mwyn teithio’n ddiogel os oes angen.
Ymhlith y cyngor mae:
- cofrestru ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru (rhif ffôn: 0345 988 1188)
- gwirio tudalennau rhybuddion llifogydd gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n cael eu diweddaru bob 15 munud
- meddwl am ffyrdd o ddiogelu’ch cartref neu fusnes
- symud eiddo gwerthfawr a cherbydau i dir uwch, a meddwl am baratoi cit llifogydd
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n cyhoeddi rhybuddion llifogydd pe bai lefel afonydd yn cyrraedd y trothwy, ac mae timau’n barod i fonitro bob awr o’r dydd.
Mae dau fath o rybudd – un sy’n dweud bod llifogydd yn bosib, ac un sy’n dweud eu bod nhw’n debygol, ac mae rhybuddion difrifol yn golygu bod bywydau yn y fantol a bod disgwyl cryn anghyfleustra.
Mae modd ffonio llinell gymorth llifogydd ar 0345 988 1188.
‘Lleihau’r risg i gymunedau’
“Mae’r glaw trwm a’r gwyntoedd cryfion oherwydd Storm Bert, ynghyd â’r eira diweddar yn toddi, yn debygol o achosi trafferth ledled Cymru y penwythnos hwn,” meddai Katie Davies, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Felly rydym yn cynghori pobl i edrych ar y rhybuddion a’r hysbysiadau llifogydd a gyhoeddir yn eu hardaloedd.
“Mae gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae’r sefyllfa lle rydych chi’n byw yn bwysig iawn.
“Gallwch weld beth yw lefel eich perygl llifogydd a’r rhybuddion llifogydd diweddaraf ar ein gwefan sy’n cael ei hadnewyddu bob 15 munud.
“Cadwch lygad ar @NatResWales ar X (Twitter gynt) am y wybodaeth ddiweddaraf, a gwrandewch ar adroddiadau tywydd a newyddion lleol am fanylion unrhyw broblemau yn eich ardal.
“Mae ein timau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r risg i gymunedau, ond os oes llifogydd rydym am sicrhau bod pobol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw eu hunain yn ddiogel hefyd.
“Rydym yn annog pobol i gadw draw o afonydd sydd â llif uchel, ac i beidio gyrru neu gerdded trwy ddŵr llifogydd – mae’n aml yn ddyfnach nag y mae’n ymddangos ac yn cynnwys peryglon cudd.”